Cais
Oes gennych chi syniad da a allai helpu eich busnes ac Amaethyddiaeth ehangach Cymru i ddod yn fwy cynaliadwy?
Mae ceisiadau’n awr ar agor am gyllid o hyd at £5,000 i ffermwyr a thyfwyr ddefnyddio tuag at dreial ar y fferm i arbrofi eu syniadau a’u gwireddu.
Mae Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r Cyllid Arbrofi, i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb mewn busnesau amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd.
Mae yna lawer o newidiadau ar y gorwel i amaethyddiaeth ac mae nawr yn amser gwych i archwilio syniad a allai fod o fudd i'ch fferm gan ganiatáu i chi fynd i'r afael â phroblemau 'go iawn' neu wirio a yw syniad ymchwil yn gweithio'n ymarferol ar eich fferm.
Mae'r ffenest ymgeisio nawr ar agor tan hanner nos ar 17/02/2025.
Sut mae'r cyllid yn gweithio
- Mae’r cyllid yn agored i unigolion neu grwpiau o hyd at bedwar ffermwr a/neu dyfwyr yng Nghymru sydd wedi nodi problem neu gyfle lleol neu benodol.
- Bydd prosiectau addas yn anelu at wella effeithlonrwydd cynhyrchu a phroffidioldeb gan ddiogelu'r amgylchedd trwy sicrhau eu bod yn alinio â Chanlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy. Mae enghreifftiau i'w gweld ar tudalen gartref Cyllid Arbrofi.
- Rhaid gweithredu a chwblhau prosiectau llwyddiannus o fewn yr amserlen a nodir ar gais ac ni fydd y cyllid gan Cyswllt Ffermio yn fwy na £5,000 y prosiect (heb gynnwys TAW).Rhaid i bob prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Ionawr 2026.
- Gellir defnyddio cyllid ar gyfer cymorth technegol, samplo, profi a threuliau rhesymol eraill megis y rhai sy'n ymwneud â llogi offer neu gyfleusterau arbenigol yn y tymor byr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect. Bydd disgwyl i'r ffermwyr sy'n cymryd rhan ddarparu eitemau megis tir, stoc a hefyd eu hamser heb unrhyw gost i'r prosiect. Ni ellir defnyddio cyllid i brynu caledwedd neu eitemau cyfalaf.
- Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu gyda chynhyrchwyr eraill yng Nghymru drwy weithio gydag aelod ymroddedig o dîm Cyswllt Ffermio i gynhyrchu adroddiad byr a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth eraill megis digwyddiadau. Bydd angen cynhyrchu adroddiad terfynol ar y cyd ag aelod penodol o dîm Cyswllt Ffermio ar y prosiect arbrofi cyn i gostau terfynol y prosiect gael eu talu.
- Gall ffermwyr a thyfwyr wneud cais drwy gwblhau ffurflen gais a fydd yn cael ei hystyried a’i hasesu.
CYMHWYSTER
- Mae’r cyllid yn agored i unigolion neu grwpiau o hyd at bedwar ffermwr a thyfwyr yng Nghymru
- Rhaid i fusnesau fferm fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.
- Noder - Gallwch gofrestru gyda Cyswllt Ffermio drwy gysylltu â’r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000 813.
- Caniateir i bob busnes ymwneud ag un prosiect yn unig o dan y Cyllid Arbrofi yn ystod cyfnod ariannu y rhaglen Cyswllt Ffermio.
Y BROSES YMGEISIO
- Cwblhewch y ffurflen gais isod.
- Cymerwch amser i ddod yn gyfarwydd â’r Llawlyfr Arbrofi, bydd hyn o gymorth gyda chynllunio’r prosiect a chwblhau’r ffurflen gais.
Caiff ceisiadau eu hystyried a'u hasesu gan Banel Asesu, a gallant fod yn destun proses gyfweld. - Ffenestr ymgeisio – 10am 27/01/2025 – ganol nos 17/02/2025
- Rhoddir gwybod i ymgeiswyr cyn pen dwy wythnos ar ôl i'r ffenestr ymgeisio gau os byddant yn llwyddiannus ai peidio.
- Bydd taliad yn cael ei wneud o fewn 30 diwrnod i dderbyn y ffurflen hawlio wedi'i chwblhau'n foddhaol a dogfennaeth ategol, anfonebau a derbynebau.
Datganiad o Ddiddordeb:
RHAGOR O WYBODAETH
Am ragor o wybodaeth a chymorth gyda chwblhau’r ffurflen gais, cysylltwch â - fctryout@menterabusnes.co.uk
COSTAU NAD YDYNT YN GYMWYS (RHESTR ANGHYFLAWN)
- Costau teithio a chynhaliaeth i ffermwyr sy'n cymryd rhan
- Ar gyfer buddsoddiadau tymor hwy mewn daliadau amaethyddol h.y. prynu anifeiliaid
- Cyfalaf gweithio neu unrhyw golled ariannol a gafwyd o ganlyniad i gymryd rhan yn y prosiect
- Unrhyw wariant cyn i’r prosiect a gymeradwywyd ddechrau heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Cyswllt Ffermio
- Unrhyw gostau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni’r prosiect
- Costau llafur ac offer eich hun
- Costau cynnal a chadw neu atgyweirio
- Tirlunio, gwaith addurniadol, a darparu amwynderau
- Argyfyngau
- TAW adenilladwy