Hyfywedd tyfu coed cnau Ffrengig a chastanwydd pêr yng ngorllewin Cymru
Ymchwilio i hyfywedd tyfu 8 math gwahanol o goed cnau Ffrengig a chastanwydd pêr gyda chasglu data ar gyfradd marwolaethau, pa mor agored ydynt i glefydau a chynnyrch ffrwythau. Bydd y prosiect yn darparu data y mae mawr ei angen am dyfu coed cnau yng Nghymru. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol
- Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon
- Diogelu a gwella ecosystem y fferm
- Lles pobl, anifeiliaid a lle