08 Mai 2024

 

Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu tir.

Mae Martyn Williams ac Alison Harwood wedi plannu coed cnau Ffrengig a choed castanwydd pêr ar lethr un hectar sy’n wynebu’r de yn edrych dros yr Afon Tywi.

Maen nhw wedi dewis amrywiaethau sy’n gweddu’n dda gyda’r amodau ar fferm Old Castle, Llangain.

Mae cnau yn cael eu tyfu’n fasnachol yn fwy nag erioed yn y DU wrth i’r hinsawdd gynhesu, gan wneud cynnyrch yn fwy hyfyw o safbwynt economaidd, ond yr hyn sy’n llai hysbys yw pa mor addas yw’r fenter hon i amodau’r tywydd yng ngorllewin Cymru, neu’r priddoedd cleiog cymharol asidig ar fferm Old Castle.

Er mwyn archwilio hyn, mae Martyn ac Alison wedi derbyn cyllid o gronfa ‘Cyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio, menter sy’n darparu cyllid i unigolion a grwpiau o ffermwyr a thyfwyr i arbrofi gyda syniadau a’u gwireddu.

Maen nhw wedi plannu 20 o goed cnau Ffrengig ac 20 o goed castanwydd pêr, amrywiaethau a ddewiswyd am nodweddion twf sy’n cyfateb â lledred y rhanbarth.

Mae twf y coed bellach yn cael ei fonitro, ac i roi’r cyfle gorau i’r coed ffynnu, mae’r ardal o’u cwmpas yn cael ei gadw’n rhydd o chwyn i atal cystadleuaeth ar gyfer maetholion a lleithder.

Y bwriad yw edrych ar ddefnyddio gwahanol fathau o domwellt, megis gwlân, a hyd yn oed cregyn o draeth lleol, i gydbwyso tymheredd y pridd a chynnal lefelau lleithder.

Mae coed cnau yn ddefnyddiol ar gyfer darparu bioamrywiaeth ar ffermydd, ond o’i gymharu â rhanbarthau eraill yn Ewrop, prin iawn yw’r economi cynhyrchu bwyd o goed yng Nghymru.

Mae’r newid yn yr hinsawdd, ynghyd â newidiadau arfaethedig ym mholisi amaethyddol Llywodraeth Cymru, yn golygu bod angen archwilio gwahanol ddulliau o gynhyrchu bwyd.

Mae Martyn yn ddiolchgar i Cyswllt Ffermio a’r Cyllid Arbrofi am helpu i wireddu’r prosiect ar fferm Old Castle.

“Mae wedi rhoi rhywfaint o ryddid i ni, gan dynnu’r pwysau oddi ar arbrofi gyda menter a all fod yn hyfyw neu beidio.’’

Mae’n debygol y bydd hi’n bum mlynedd nes y bydd y coed yn cynhyrchu unrhyw gnau, os o gwbl, ond dywed Martyn fod plannu coed yn cynnig etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal â phleser i’r genhedlaeth bresennol.

“Rydw i wrth fy modd yn plannu coed, maen nhw’n gallu bod o gwmpas am gannoedd o flynyddoedd, ymhell ar ein holau ni. Rwy’n deall bod angen i ffermwyr gynhyrchu bwyd ar ein cyfer, ond dyma fydd ein rhodd i’r dyfodol.’’


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y