Rheolaeth biocemegol o smotiau brown mewn ffa gwanwyn
Bydd y prosiect yn gwerthuso dichonoldeb tyfu ffa gwanwyn fel cnwd protein ar gyfer buchod llaeth gyda'r nod o ddileu mewnforio soia. Mae smotiau brown (chocolate spot) yn glefyd ffwngaidd cyffredin a bydd y prosiect yn ymchwilio i ddichonoldeb defnyddio rheolaeth fiocemegol i liniaru prynu chwynladdwyr a phlaladdwyr eraill, ac i gynnal bioamrywiaeth caeau. Bydd y prosiect hefyd yn asesu a yw’r ffa gwanwyn sy’n blodeuo ym mis Mehefin yn ffynhonnell fwyd ychwanegol i beillwyr. Cesglir data ar gynnyrch cnydau, lefel y clefyd, dadansoddi protein, ac archwiliad bioamrywiaeth. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol
- Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff
- Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon
- Diogelu a gwella ecosystem y fferm
- Lles pobl, anifeiliaid a lle