Lleihau Mastitis mewn Diadelloedd Defaid Masnachol
Mae mastitis mewn defaid yn llid difrifol ar y pwrs/ gadair mewn mamogiaid, sy’n cael ei achosi gan haint bacterol fel arfer. Mae’n bryder difrifol i ffermwyr defaid ac amcangyfrifir ei fod yn costio mwy na £120 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant.
Rhesymau am y golled economaidd:
- Difa mamogiaid sy’n goddef o mastitis yn gynnar
- Colli’r defnydd o’r pwrs/cadair
- Y cynnyrch llaeth o ansawdd salach
- Cyfraddau tyfu’r ŵyn yn llai
Mae dau ar bymtheg o ffermwyr, gydag arweiniad gan Flock Health Ltd, yn anelu at gael gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar yr achosion o fastitis mewn diadelloedd masnachol ac i leihau’r gyfradd difa.
Cofnododd aelodau’r grŵp bob achos o fastitis yn 2023 i osod llinell sylfaen ar gyfer mwy o fonitro ym mlwyddyn gynhyrchu 2024. Data fel oedran y famog, sgôr cyflwr corff, cyflwr y deth, nifer yr ŵyn, ac wythnosau ar ôl ŵyna y mae’n goddef yr haint yw’r data y mae’r ffermwyr yn ei gasglu.
Cymerodd ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn samplau llaeth hefyd o gyfran o’r pyrsiau/cadeiriau heintiedig i asesu’r bacteria a sensitifrwydd yn ystod blwyddyn gynhyrchu 2024. Bydd y prosiect hefyd yn profi effeithlonrwydd amrywiaeth o wrthfiotigau wrth drin mastitis.
Bydd y data a’r samplau a gesglir gan y ffermwyr yn helpu i ddynodi patrymau mastitis ar gyfnodau penodol yn ystod y cylch cynhyrchu (cyn ŵyna, llaethiad cynnar neu hwyr, cyn diddyfnu, ar ôl diddyfnu).
Bydd dadansoddi data’r diadelloedd masnachol hyn yn helpu i ddynodi’r ffactorau allweddol sy’n ymwneud â datblygu mastitis ac yn awgrymu strategaethau i wella rheolaeth i leihau’r gyfradd y mamogiaid i’w difa a’r defnydd o wrthfiotig.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at y deilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr