Rheoli ac Atal Mastitis Clinigol ac Is-glinigol

Mae mastitis, sy’n llid yn y pwrs/gadair, yn bryder mawr i ffermwyr llaeth gan ei fod yn gwaethygu ansawdd y llaeth a lleihau’r cynnyrch, ac yn achosi anghysur a pheryglon iechyd i’r buchod. Cofnododd AHDB Dairy mai trin a rheoli mastitis yw un o’r costau mwyaf i ddiwydiant llaeth Prydain ac mae’n ffactor arwyddocaol o ran lles buchod llaeth. Gall trin pob achos o fastitis gostio rhwng £250 a £300 ar gyfartaledd oherwydd costau milfeddygol, gostyngiad yn y cynnyrch a cholli llaeth, ond mae’r costau’n amrywio rhwng achosion ysgafn a difrifol.

Mae grŵp o un ar ddeg o ffermwyr yn gweithio gydag Anna Bowen, o’r Anderson Centre a James Breen, arbenigwr mewn rheoli mastitis i ddatblygu cynllun mastitis ar gyfer eu buchesi unigol, gyda’r nod o rannu canfyddiadau gyda’r sector llaeth ehangach.

Bydd aelodau’r grŵp yn rhoi data yn yr Offeryn Patrwm Mastitis AHDB (MPL) a bydd James yn dehongli’r canlyniadau ac yn argymell strategaethau rheoli ar sail tystiolaeth sy’n benodol i bob fferm.

Bydd y data fydd yn cael ei gasglu i’w ddadansoddi yn cynnwys - 

  • Achosion o fastitis 
  • Cyfrif celloedd somatig (SCC) yn y tanc llaeth 
  • Cyfnod cael y mastitis (buwch sych yn erbyn y cyfnod llaetha) 
  • Mastitis mewn heffrod yn y cyfnod llaetha cyntaf 
  • Gwella yn y cyfnod sych a chyfraddau heintio newydd (SCC)

Trwy’r prosiect, bydd ffermwyr yn anfon samplau llaeth i ffwrdd i gael samplo bacteria a sensitifrwydd i wrthfiotig i sicrhau bod y gwrthfiotig cywir yn cael ei roi ac i wirio am sensitifrwydd i penisilin.

Chwe mis ar ôl i’r prosiect gychwyn bydd y grŵp yn adolygu eu data, nodi meysydd i’w newid ac yn gweithredu rhagor o argymhellion. Trwy weithio gyda’i gilydd, gall aelodau’r grŵp rannu profiadau, nodi achosion cyffredin yn eu buchesi, a datblygu cynllun mwy effeithiol i fynd i’r afael â mastitis.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at y deilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys: 

  • Cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr