24 Ebrill 2025
Mae prosiect sy'n cynnwys nifer o ffermydd llaeth yng Nghymru wedi dangos pam mae casglu data i ganfod arwyddion rhybudd o fastitis sy'n benodol i fuches unigol yn gallu bod yn allweddol i leihau nifer yr achosion o’r clefyd.
Gwahoddodd Cyswllt Ffermio ddeg buches o wahanol feintiau ar draws canolbarth, de a gorllewin Cymru i weithio gyda'r ymgynghorydd milfeddygol James Breen i ymchwilio i werth defnyddio data i ganfod patrymau mastitis a chyfrif celloedd (SCC) a'u hachosion.
Cefnogodd James bob fferm gyda chyngor arbenigol ar sut i leihau nifer eu hachosion o fastitis clinigol ac is-glinigol.
Yn gyffredinol, mae adroddiadau'r diwydiant yn rhoi nifer yr achosion o fastitis mewn buchesi yn y DU ar gyfartaledd o 30-35 o achosion fesul 100 o wartheg.
Yn ôl yr ymgynghorydd fferm Anna Bowen, o The Andersons Centre, mae hyn yn cyfateb i rhwng 23-53 achos y flwyddyn mewn buches â 150 o wartheg.
Ar gost amcangyfrifedig o £314 ar gyfer pob achos o fastitis clinigol, sef y ffigur a ddefnyddiwyd yn Adroddiad Costau Kingshay Dairy yn 2024, y golled ariannol flynyddol i'r fuches honno fyddai rhwng £7,222 a £16,642.
"Er bod cyflawni dim achosion o fastitis yn afrealistig, mae yna fanteision ariannol sylweddol i leihau achosion, ynghyd â buddion lles, pwyntiau cadarnhaol o ran canfyddiad y cyhoedd o amaethyddiaeth, a'r effeithiau canlyniadol posibl a geir yn sgil lleihau defnydd gwrthficrobiaid," meddai Anna.
Roedd ffermydd y prosiect yn darparu data cyfrifau celloedd somatig a mastitis clinigol i James, ond roedd hyn yn amrywio o ran yr ansawdd a’r ffynonellau, yn ôl amlder cofnodi llaeth a ffactorau eraill, megis a oedd yr holl achosion clinigol wedi'u cofnodi.
Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, rhoddodd James offeryn patrwm mastitis ar waith ar gyfer pob buches i ganfod y patrwm mastitis pennaf yn y chwarter diwethaf, a’r cyfraddau achosion mastitis clinigol cyfredol, chwarterol a threigl 12 mis.
Gellid cyfrifo rhagor o wybodaeth am gyfraddau iacháu, cyfraddau heintiau newydd yn y cyfnod sych, a nifer yr achosion mewn heffrod lle'r oedd y data yn galluogi hyn.
Ym mhob cam casglu data, rhoddwyd gwybod i’r ffermwyr am darddiad yr achosion yn ystod y cyfnod sych a'r cyfnod llaetha, a'r cyfraddau heintio yn eu heffrod.
Roedd samplu'r llaeth o wartheg â mastitis clinigol i gadarnhau’r bacteria a oedd yn gyfrifol am yr haint yn rhan hanfodol o'r prosiect.
Y pathogen mastitis mwyaf cyffredin oedd S.uberis, ac yna E.coli. Tyfodd saith sampl Aerococcus viridans, sef bacteriwm Gram-positif sy’n dod yn fwyfwy pwysig.
Roedd y ffermwyr wedi cael cyngor ynghylch sut i gymryd samplau aseptig. Dywedodd Anna, a gasglodd ganfyddiadau'r prosiect, fod y broses wedi tynnu sylw at ba mor bwysig oedd cymryd samplau mewn ffordd hylan.
"O'r 53 sampl a gyflwynwyd, roedd bron chwarter wedi'u halogi, ac felly roedd y samplau hyn wedi'u gwastraffu i bob pwrpas," meddai. “Fel arfer, mae hyn yn digwydd oherwydd dulliau casglu gwael.''
Mae samplu yn bwysig oherwydd bod gwybod pa bathogenau sy'n achosi mastitis ar fferm yn golygu y gellir defnyddio triniaethau priodol, ychwanegodd.
Dangosodd y data nad oedd gan yr un o'r ffermydd fastitis heintus – roedd pob un ohonynt yn dangos patrwm amgylcheddol a oedd yn tarddu naill ai yn y cyfnod sych neu yn ystod y cyfnod llaetha.
Roedd nifer yr achosion o fastitis yn amrywio o un fferm lle gwelwyd dau achos fesul 100 o wartheg yn y gwanwyn i fferm arall gyda 104 o achosion fesul 100 o wartheg yn y gaeaf.
Dywed Anna fod rhai o'r gwahaniaethau o ganlyniad i gofnodi gwell, tra bod eraill yn adlewyrchu patrwm clefyd y fferm.
Ymhlith yr ymyriadau yr oedd James yn eu hargymell i ffermydd penodol yr oedd: siediau, deunydd gorwedd, a'r patrwm godro, gydag awyru, rheoli tail a chyfraddau stocio hefyd yn feysydd allweddol i roi sylw iddynt.
Cynghorwyd un fferm â phatrwm mastitis amgylcheddol i agor pennau sied i wella llif aer a llif y gwartheg a chynyddu'r man gorffwys.
Argymhellwyd crafu amlach, ynghyd ag atgyweiriadau i atal slyri rhag cronni, a gostyngiad yn y gyfradd stocio ymhlith y grŵp llaetha uchel.
Ar gyfer fferm arall lle'r oedd mastitis yn tarddu yn y cyfnod sych, cyngor James oedd symud gwartheg sych sy’n pori glaswellt yn amlach.
Roedd y gyfradd stocio yn sied wartheg sych y fferm yn rhy uchel, ac nid oedd awyru yn ddigonol, felly cynghorwyd y ffermwr i agor crib y to i wella awyru, ac i daenu deunydd gorwedd yn amlach.
Awgrym arall oedd ystyried defnyddio ciwbiclau cludadwy i leihau'r gyfradd stocio.
Dywedodd Anna fod nifer yr achosion o fastitis ar rai o'r ffermydd wedi gostwng yn ystod y prosiect 12 mis, ond ar eraill, roedd wedi cynyddu mewn gwirionedd.
Nododd fod angen "ymdrech sylweddol" i ddatrys llawer o broblemau mastitis, a bod amser hefyd yn ffactor.
"Efallai y bydd angen i flwyddyn fynd heibio fel y gellir asesu siediau ar gyfer y gaeaf, a’u newid, ac yna gall y gwartheg fynd trwy'r cyfnod dan do cyn bod data ar gael," meddai.
Y ffermydd lle gwelwyd y canlyniadau mwyaf cadarnhaol oedd y rhai a fu’n gweithio gyda'u milfeddygon i leihau nifer yr achosion.
O ran y cyfrif celloedd somatig, llwyddodd un fferm i leihau ei gyfrif celloedd somatig treigl o 310,000 celloedd / ml i 262,000.
Dywedodd Anna fod cyfrifau celloedd somatig wedi bod yn her i'r fferm, ac yn un o’r rhesymau pam ei bod wedi ymuno â'r prosiect.
Mae rhoi gwerth ariannol ar gyfrifoedd celloedd somatig yn anodd, gan ei fod yn dibynnu ar y lefelau lle mae cosbau a bonysau yn cael eu gosod mewn contractau llaeth unigol, a gwerth y rheini, ychwanegodd.
"Mae gan un o'r ffermydd gosbau sydd wedi'u gosod ar gyfrif celloedd somatig eithaf isel. Mae'n cynhyrchu cyfaint mawr o laeth, felly mae 0.5 ceiniog ychwanegol y litr (ppl) yn swm sylweddol o arian, a byddai'n talu'n gyflym am y newidiadau a argymhellwyd gan James," meddai Anna.
"Mewn cyferbyniad, nid yw un arall yn cael unrhyw gosbau na bonysau nes bod cyfrifau celloedd somatig yn eithriadol o uchel, ac mae'n fuches fach iawn, felly mae 0.5ppl yn swm llawer llai o arian. Fodd bynnag, mewn buches fach, mae cynnwys y llaeth yn llai gwasgaredig, felly gall atal un fuwch rhag bod â chyfrif celloedd somatig uchel neu ei hiacháu yn ystod y cyfnod sych gael effaith fawr ar gyfrif celloedd somatig swmp llaeth cyffredinol y fuches.''