Diweddariad Prosiect Mai 2019 - Rheoli Dail Tafol

Rheoli dail tafol mewn porfeydd parhaol heb feillion coch.

 

Gall dail tafol arwain at lawer o gystadleuaeth mewn caeau pori’r gwanwyn gan eu bod yn ymateb yn dda i nitrogen yn debyg iawn i laswellt, felly pan fo nitrogen yn cael ei wasgaru ar y borfa i hybu twf glaswellt cynnar, gallwn hefyd weld cynnydd mawr ym maint y dail tafol yn y cae. Mae chwistrellu’n debygol o fod yn gost effeithiol pan fo dail tafol yn gorchuddio o leiaf 10% o arwynebedd y cae. Er mwyn cyfrifo gorchudd y dail tafol, cyfrwch nifer y dail tafol mewn ardal sy’n ymestyn 2.5m bob ochr i chi a 7m o’ch blaen (35m2), gan fod nifer y dail tafol yn yr ardal hon yn gyfwerth â chanran gorchudd y dail tafol. Mae’r prosiect Cyswllt Ffermio ar fferm Newton Farm yn edrych ar effeithlonrwydd ac elw o fuddsoddiad gwahanol chwistrelli i gynorthwyo i reoli dail tafol. Rydym ni wedi mesur lefel cychwynnol y dail tafol, sy’n dangos dros 20% ac rydym ni wedi defnyddio gwahanol driniaethau rheoli dail tafol sydd ar gael ar hyn o bryd. Ar y caeau sy’n cynnwys meillion, byddwn yn defnyddio cynnyrch sy’n ddiogel i’w ddefnyddio gyda meillion. Rydym ni’n cymharu rheolaeth dail tafol mewn porfeydd parhaol a ddefnyddir ar gyfer pori cylchdro ar ardal o 15 ha gydag a heb feillion. Byddwn yn defnyddio chwistrelliad unigol yn ystod y gwanwyn ar y mwyafrif o’r caeau ond byddwn yn rhannu’r gyfradd dros y gwanwyn a’r hydref mewn rhai caeau i gymharu effeithiolrwydd. Ni fydd rhai ardaloedd ar y fferm sy’n cynnwys dail tafol yn derbyn triniaeth, a dyma fydd yr ardal rheoli. Er enghraifft, ar un o’r caeau (Cae Clover: 3.2Ha ar gyfer 8t DM/Ha ME 12.5) byddai’r cynnydd yn y glaswellt sydd ar gael cyfwerth â 23 o ddefaid ychwanegol/2 fuwch ychwanegol neu 3 T (tua 1T DM/ha = £140.00/ha Mynegai Elw’r Borfa Teagasc) yn fwy o laswellt yn y cae (cyfrifiannell cost chwyn Corteva).

Ebrill 19: Asesiad o lefelau’r dail tafol yn y caeau i’w trin: Yn dilyn yr asesiad cychwynnol, fe wnaethom ni fesur 10 - 20% o orchudd dail tafol. Ar 4 Ebrill, roedd y dail tafol yn rhy fach i’w trin, ond erbyn dechrau Mai, roedden nhw ar y cam datblygiad cywir i’w trin (cam roséd).

Ar ôl cerdded drwy’r caeau gyda agronomegydd y fferm, bûm yn trafod ystod o driniaethau i’w defnyddio fel rhan o’r arbrawf hon. Cafodd y plotiau a’r caeau eu chwistrellu rhwng diwedd Ebrill a dechrau Mai 2019.

 

Triniaethau:

Enw’r Cae

Maint y Cae

Triniaeth

Cost/ha

Cyfyngiadau

Cae Mawr (meillion)

4.0ha

2,4-DB (400g/l) cyfradd 73%

Amidosulfuron (75%w/w)

cyfradd 67%:Crusade (lleihau drifft)

£62/ha

21 diwrnod rhwng cynaeafu

5 Corner (meillion)

2.4ha

Cae wedi’i rannu: 1/2 cae

Amidosulfuron (75%w/w) 100%

 

½ cae: 2,4-DB (400g/l) 73%

Amidosulfuron (75%w/w) 67%

 

£40/ha

 

 

£58/ha

21 diwrnod rhwng cynaeafu

Cae Clover

3.2ha

Cae wedi’i rannu x 5 triniaeth

T1: Triclopyr (150g/l);Fluroxypyr (150g/l) (1/2 cyfradd = Doxstar cyfradd lawn)

T2:2,4-D (344g/l);Dicamba (120g/l) 71% + Fluroxypyr (200g/l) 50%

T3: Fluroxypyr (200g/l) 50%

T4: 2,4-D (344g/l);Dicamba (120g/l) 100%

T5: Triclopyr (150g/l);Fluroxypyr (150g/l) 50% + Triclopyr (200g/l);Clopyralid (200g/l)

 

T1: £22.00/ha

 

 

T2: £42.00/ha

 

 

T3: £12.35/ha

T4: £30.00/ha

 

T5: £50.00

 

 

 

Cyfnod rhwng cynaeafu: 7 diwrnod

Cyfnod Pori: 14 diwrnod

 

 

 

 

 

Dicamba - meincnodi fel cynnyrch hŷn

Bridge Field

3.24ha

Triclopyr (150g/l);Fluroxypyr (150g/l) 50%

£22.00/ha

HI:7 GP:7

Sycamore (meillion)

3.6ha

Amidosulfuron (75% w/w) 100%

£40.00/ha

HI:21

 

Byddwn yn ymweld â’r caeau bob 4 wythnos i asesu rheolaeth dail tafol ac yn defnyddio ffotograffau i fonitro faint sy’n marw’n ôl ac yn cymharu effaith y gwahanol driniaethau ac unrhyw effaith ar y meillion sy’n bresennol.