Ffeithiau Fferm Plas

Ffermwyr

  • Mae Arwyn Jones yn ffermio mewn partneriaeth â’i fam. Mae’r busnes yn cyflogi tri aelod o staff llawn amser. Mae Arwyn yn byw gyda’i bartner, Sioned Wyn Roberts, ac mae ganddynt ferch 14 mis oed o’r enw Magi. 

Tir

  • Mae’r fferm yn cynnwys 900 erw - 420 erw yn berchen iddynt, gyda 480 erw ychwanegol yn cael ei rentu ar gytundeb tenantiaeth hir dymor.
  • Glaswelltir yw mwyafrif y tir, gyda 160 erw o ŷd yn cael eu tyfu’n flynyddol, gan gynnwys ŷd gaeaf a gwanwyn.

Da byw

 

Bîff

  • Mae’r fferm yn pesgi 700 o wartheg yn flynyddol, a phob un ohonynt wedi’u prynu fel anifeiliaid stôr ar oedrannau amrywiol, fel arfer yn amrywio o 18-22 mis oed.
  • Mae amrywiaeth o fridiau yn cael eu prynu, gyda’r bwriad o gyrraedd y pwysau carcas sy’n talu uchaf.
  • Silwair glaswellt yw sylfaen y dogn ar gyfer pesgi, gan ychwanegu ŷd wedi’i dyfu gartref ynghyd â ffynhonnell protein sy’n cael ei brynu i mewn, sy’n amrywio yn ôl prisiau.
  • Mae’r gwartheg yn cael eu bwydo gan ddefnyddio cerbyd bwydo TMR.

Defaid

  • Ar hyn o bryd, mae’r ddiadell yn cynnwys 1,450 o ddefaid – 1,100 mamog Suffolk croes a 350 mamog miwl.
  • Defnyddir hyrddod Texel croes Beltex gyda’r mamogiaid Suffolk croes, gyda’r mamogiaid miwl yn cael eu troi at hyrddod Suffolk.
  • Mae’r mamogiaid yn dechrau ŵyna yng nghanol mis Ionawr, gyda’r ŵyn benyw yn dechrau ŵyna o ganol Mawrth.
  • Mae’r ŵyn i gyd yn derbyn dwysfwyd, ac yn cael eu pesgi hyd at bwysau mor agos â phosib at 21kg ar y bach. 
     

Cnydau

  • Tyfir 160 erw o ŷd bob blwyddyn gan gynnwys gwenith a haidd gwanwyn a gaeaf, ac mae’r rhan fwyaf ohono’n cael ei ddefnyddio i besgi’r gwartheg.
  • Tyfir 30 erw o rêp a maip sofl fel rhan o gylchdro cnydau y fferm yn flynyddol.
  • Tyfir 12 erw o feillion coch yn ogystal er mwyn cydymffurfio â rheoliadau gwyrdd.