Ffeithiau Fferm Rhiwgriafol

Ffermwyr

  • Mae Fferm Arddangos Rhiwgriafol yn cael ei rhedeg gan Rhidian Glyn mewn partneriaeth gyda’i wraig, Elen Glyn.
  • Mae’r ddau bartner ar hyn o bryd yn gweithio llawn amser oddi ar y fferm.
  • Mae’r busnes fferm wedi datblygu’n raddol dros gyfnod o wyth mlynedd, gan ddechrau gyda saith erw a 15 mamog.
     

Tir

  • Mae Rhiwgriafol yn fferm fynydd 530 erw a gymerwyd yn 2014 ar Denantiaeth Busnes Fferm 10 mlynedd.
  • Mae’r tir yn cynnwys 290 erw o dir mynydd heb ei wella a 230 erw o dir mynydd wed’i wella.
  • Mae hefyd 15 erw o goetir ar y fferm.
     

Da Byw

Defaid

  • Mae’r ddiadell yn cynnwys 900 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella a 200 o ŵyn benyw cyfnewid.
  • Mae 600 o famogiaid wedi cael eu troi at hwrdd Cymreig a 300 wedi’u troi at hwrdd Suffolk Seland Newydd.
  • Roed y canlyniadau sganio o 130% yn 2016 ac anelu at fagu 120%.
  • Gefeilliaid yn ŵyna dan do o ganol fis Mawrth ac yn cael silwair glaswellt, ceirch a dwysfwyd.
  • Defaid sengl yn ŵyna tu allan ac yn cael ceirch a dwysfwyd trwy gafn bwydo tri mewn un.
  • Ŵyn yn cael eu pesgi oddi ar laswellt, rêp a maip ac yn cael eu gwerthu mewn marchnadoedd da byw lleol.
  • Cedwir mewnbynnau cyn ised â phosib.

Llaeth

  • Magodd Rhidian 31 o heffrod llaeth y llynedd ar gytundeb, gyda chynnydd pwysau byw o 0.7kg/dydd ar gyfartaledd.
  • Eleni, mae’r fferm yn gobeithio magu 50 heffer ar gytundeb.
  • Mae heffrod yn cael eu magu ar system bori stribed a diet silwair yn unig yn y gaeaf pan fyddant yn cael eu cadw dan do am dri mis.
     

Cnydau

  • 25 erw o silwair yn cael ei dorri ar gyfer byrnau mawr.
  • Cynllun i ail-hadu 20 erw i laswellt a rêp.