Hafod, Bancyffordd, Llandysul, Sir Gaerfyrddin

Prosiect Safle Ffocws: Canfod Statws heintiad llyngyr mewn cynefinoedd malwod ar y fferm fel modd o reoli llyngyr yr iau

Nodau'r prosiect:

  • Malwoden y llaid (Galba truncatula) yw’r lletywr canolradd ar gyfer llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen
  • Maent i’w canfod yn bennaf mewn ardaloedd gwlyb megis pyllau, ymylon nentydd, ffosydd ac ardaloedd o dir gwlyb a mwdlyd.
  • Mae parasit llyngyr yr iau yn gadael y falwen yn ystod y cyfnod sercaria yn ei gylchred bywyd ac yn aros ar lystyfiant a borir gan dda byw, felly mae’r cynefinoedd yma’n faes allweddol ar gyfer heintiad ar unrhyw fferm. 
  • Fodd bynnag, nid oes malwod yn byw ym mhob cynefin addas a dim ond rhai o’r malwod fydd wedi’u heintio â llyngyr yr iau.
  • Mae’r prosiect hwn yn anelu at glymu gwerthusiad i ddefnyddioldeb darparu’r wybodaeth yma i’r ffermwr trwy gyfres o arolygon malwod o fewn y cynefinoedd ar y fferm.
  • Datblygiad parhaus o brofion eDNA ar gyfer malwoden y llaid a’r parasit llyngyr yr iau a allai weithredu fel sylfaen i brofion mwy hir dymor a hygyrch o lefelau heintiad mewn cynefinoedd.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Wern
Osian Williams Wern, Y Foel, Y Trallwng, Powys Meysydd allweddol
Mountjoy
William Hannah Mountjoy, Trefgarn, Sir Benfro, Meysydd allweddol
Great Tre-rhew Farm
Jim a Kate Beavan Fferm Great Tre-rhew, Llanvetherine, Y Fenni