Ceredig a Sara Evans

Erw Fawr, Caergybi, Ynys Môn

 

Meysydd allweddol yr hoffech chi ganolbwyntio arnyn nhw fel ffermwr arddangos?

Defnyddio technoleg i fesur a monitro’r porfeydd: mae Erw Fawr yn tyfu glaswellt yn dda ond mae angen i ni wneud gwell defnydd ar y borfa honno er mwyn lleihau faint o borthiant wedi'i brynu sy’n cael ei gynnwys yn neiet y buchod.  

Gwella cyfnod pontio’r buchod sych: mae llawer yn gallu mynd o'i le yn ystod y cyfnod pontio ac felly fe hoffen ni ystyried rôl maeth a rheolaeth ar yr adeg bwysig yma yn y cylch cynhyrchu, er mwyn gwella'r perfformiad ar ôl lloia a gwella iechyd y lloi.

Ffeithiau Fferm Erw Fawr

 

Ceredig Evans 1 0

Rydym ni wedi bod yn cymryd camau i ddod yn fwy effeithlon ac eisiau dod i'r lefel nesaf drwy fod yn fwy manwl yn y system, mireinio’r gwaith, a hwyrach cynyddu’r cynhyrchiant a’r elw. Mae dod yn Safle Arddangos Cyswllt Ffermio yn gyfle gwerthfawr i ddod â’r bobl iawn i mewn i’n helpu i gyflawni hyn a gadael i bobl eraill ddysgu o’r treialon a’r prosiectau.’’ 

– Ceredig a Sara Evans

 


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Graig Olway
Russell Morgan Llangyfiw, Brynbuga Meysydd allweddol yr hoffech
Fferm Rhiwaedog
Emyr, Aled a Dylan Jones Fferm Rhiwaedog, Y Bala, Gwynedd Meysydd
Newton Farm
Richard a Helen Roderick Newton Farm, Scethrog, Aberhonddu Prif