Cyflwyniad Prosiect Erw Fawr: Prosiect CattleEye

Mae technoleg dadansoddeg fideo wedi datblygu’n sydyn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae argaeledd y dechnoleg wedi creu cyfle o fewn y diwydiant llaeth i elwa o lwyfan dadansoddeg fideo sy’n seiliedig ar wybodaeth fanwl. Gall llwyfan o’r fath ddefnyddio data gweledol i gael trosolwg o wybodaeth am yr anifail a allai gael ei ddefnyddio yn y pen draw i reoli da byw yn fwy effeithlon a darparu tystiolaeth fwy cyson o safonau lles anifeiliaid. Byddai hyn yn newid mawr o systemau presennol ar gyfer casglu data da byw, sydd naill ai’n dibynnu ar y ffermwr i gofnodi data â llaw, neu mewn achos technoleg synwyryddion megis coleri ac offer mesur camau gwartheg, yn gofyn am lawer o waith i’w comisiynu.

Mae CattleEye wedi datblygu llwyfan ar y cwmwl sy’n seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial, sydd wedi’i lunio i ddehongli delweddau gweledol o dda byw a gesglir gan ddefnyddio gwe gamerâu teledu cylch cyfyng (TCC) safonol. Bydd y system yn adnabod gwartheg yn awtomatig yn seiliedig ar eu biometreg a’u marciau wrth iddynt adael y parlwr, ac yn cofnodi sgôr symudedd a sgôr cyflwr corff yn ddyddiol. Bydd y rhain yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at y ffermwr a fydd yn gweithredu’n unol â’r wybodaeth, dan arweiniad arweinydd y prosiect, Yr Athro Georgios Oikonomou o Brifysgol Lerpwl. Gallai’r prosiect wella safonau lles yn sylweddol trwy olrhain a lleihau lefelau cloffni, gan roi sylw i un o ofynion y gymdeithas a defnyddwyr. Yn ogystal, gallai hefyd leihau goblygiadau ariannol cloffni ar elw’r fuches laeth.

Yn nodweddiadol, mae achos o ddermatitis digidol yn costio oddeutu £75, achos o glefyd y llinell wen yn costio £300 a briw ar wadn y droed yn costio £520. Fodd bynnag, amcangyfrifir fod cost cadw buwch gloff yn £2.20/dydd. 

Ffigwr 1. Dadansoddiad o gostau blynyddol cloffni (o Willshire and Bell, 2009).

 

Nod y prosiect:

  • Asesu defnydd ymarferol a chywirdeb adnabod y gwartheg
  • Lleihau nifer yr achosion o gloffni a’r costau cysylltiedig ymysg gwartheg gyda sgôr o 2 a 3 dros gyfnod o 6 mis trwy drin y traed yn gynt
  • Gwella dulliau cofnodi gwybodaeth lles anifeiliaid

Bydd yr adnodd Deallusrwydd Artiffisial CattleEye sy’n seiliedig ar y cwmwl yn cael ei ddefnyddio ar y fferm i ganfod arwyddion cynnar o gloffni yn y fuches laeth. Bydd hyn yn galluogi’r ffermwr i dargedu ymyraethau’n fwy effeithiol (mewn cydweithrediad a thrimiwr traed y fferm a’r partner o Brifysgol Lerpwl). Bydd y prosiect yn ein galluogi i ddilysu technoleg newydd CattleEye ymhellach, a gallai hyn arwain at welliannau sylweddol o ran lles anifeiliaid. Nod arall y prosiect yw asesu enillion posibl ar fuddsoddiad a allai ddeillio o dechnolegau o’r fath drwy leihau lefelau cloffni. Bydd gwahanol raddfeydd ac achosion o gloffni’n effeithio’n wahanol o safbwynt ariannol, fodd bynnag, mae Ffigwr 1 yn dangos dadansoddiad nodweddiadol o gostau blynyddol cloffni, gyda’r mwyafrif yn ymwneud â ffrwythlondeb, lleihad mewn cynnyrch a chostau difa.

 

Diweddariad a chamau nesaf

Gosodwyd camera TCC arferol yn ystod mis Rhagfyr oddeutu 4 metr uwchben y rhedfa wartheg wrth iddynt adael y parlwr. Mae’r camera hwn wedi cysylltu gyda’r we a bydd lluniau byw’n cael eu dehongli gan y feddalwedd CattleEye sy’n seiliedig ar y cwmwl. Bydd angen amser penodol ar y feddalwedd i adnabod pob buwch wrth iddi fynd o dan y camera, ynghyd ag ymarfer i gadarnhau rhif adnabod y fuwch. Gan ddilyn cyfyngiadau Covid-19 presennol, bydd y fferm yn sgorio symudedd y fuches cyn defnyddio’r feddalwedd er mwyn cael cipolwg o lefelau cloffni presennol yn y fuches.

Ffigwr 2. Llun a dynnwyd gan y camera TCC, a osodwyd uwchben rhedfa’r gwartheg wrth iddynt adael y parlwr. Mae’r camera arferol hwn wedi cysylltu gyda’r we a bydd lluniau byw’n cael eu dehongli gan y feddalwedd CattleEye sy’n seiliedig ar y cwmwl.