Ffeithiau Fferm Erw Fawr

Mae Safle Arddangos Erw Fawr yn ddaliad o 192-hectar (ha) sy’n cael ei ffermio gan Ceredig a Sara Evans mewn partneriaeth â rhieni Ceredig, Ifan ac Ann. 

Mae'r teulu’n cynhyrchu llaeth o fuches Holstein bedigri gynhyrchiol iawn, a honno’n cael ei rhedeg ar system lloia gydol y flwyddyn.

Cafodd buches Branwen ei sefydlu ym 1980 pan drodd y fferm o gynhyrchu biff a defaid i gynhyrchu llaeth.

Mae nifer y gwartheg wedi codi’n raddol o 120 pan ddychwelodd Ceredig i’r fferm ym 1995 i’r 300 sydd gan y fuches heddiw. Mae yna 250 o loi. 

Mae semen sydd â’i ryw wedi’i bennu, ar y cyd â genomeg, wedi'u defnyddio i roi hwb i niferoedd yr heffrod ac i gynhyrchu incwm ychwanegol drwy werthu’r heffrod dros ben.

Mae tarw stoc Limousin yn cael ei ddefnyddio i’w baru â buchod sydd heb feichiogi ar ôl AI.

Mae’r fuches yn cynhyrchu 9,000 litr y flwyddyn ar gyfartaledd, gyda 4% o fraster menyn a 3.3% o brotein. Mae’r llaeth yn cael ei werthu i Arla.

Mae’r buchod yn cael TMR cywasgedig sy’n cynnwys indrawn a chnwd cyfan sydd wedi’u tyfu gartref.

Mae’r fuches yn cael ei rhedeg fel dau grŵp – y naill yn uchel ei gynhyrchiant a’r llall yn isel – pan fyddan nhw ar y borfa rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Mae byffer yn cael ei fwydo i’r grŵp uchel ei gynhyrchiant er mwyn cadw lefel y cynhyrchiant.

Mae’r buchod yn cael tair tunnell o ddwysfwyd y flwyddyn, gan fwyta yn y parlwr 20/40.

Er bod yr hyn sy’n cael ei fwyta wedi’i seilio ar TMR a phorthiant wedi’i brynu, mae’r busnes yn ceisio cynyddu’r borfa sy’n cael ei bwyta yn ystod y tymor pori gymaint ag y bo modd; mae’r ardal bori, ar briddoedd lôm clai, yn cael ei rhannu’n badogau.