22 Tachwedd 2021

 

Mae defnyddio technoleg i ganfod cloffni’n gynnar wedi arwain at leihad o bron i 75% yn nifer y gwartheg gyda phroblemau symudedd difrifol ar fferm laeth yng Nghymru.

Mae Erw Fawr, un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio ger Caergybi, wedi bod yn treialu system ddigidol newydd sy’n defnyddio algorithm i ddadansoddi delweddau fideo o wartheg yn cerdded, ac yn echdynnu gwybodaeth ohonynt.

Mae camera TCC yn sganio’r gwartheg wrth iddynt gerdded oddi tano ac mae meddalwedd CattleEye yn dewis pwyntiau allweddol ar y fuwch i ddarparu sgôr symudedd, gan greu proffil o gerddediad y fuwch. Gellir cysylltu camerâu diogelwch sylfaenol gyda’r we i asesu lles a pherfformiad y fuches heb orfod defnyddio caledwedd ychwanegol megis coleri gwartheg neu fesuryddion camau.

Cyn gynted ag y bydd y system yn gweld newid mewn symudedd, mae’n cael ei nodi.

Ar fferm Erw Fawr, mae hyn wedi rhoi’r cyfle i’r ffermwr, Ceredig Evans, drin gwartheg cyn i achos droi’n broblem ddifrifol ymysg ei fuches o 300 o wartheg Holstein cynhyrchiol iawn.

Mae’r arbenigwr cloffni, yr Athro George Oikonomou o Brifysgol Lerpwl, wedi bod yn cynnal gwerthusiad annibynnol o berfformiad y dechnoleg ar fferm Erw Fawr ar ran Cyswllt Ffermio.

Bu’n rhannu ei ganfyddiadau gyda ffermwyr yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd yn ddiweddar ar y fferm.

Ar ddechrau’r arbrawf ym mis Ebrill 2021, cafodd y gwartheg eu sgorio gyda’r llygad gan ddefnyddio system sgorio AHDB; roedd gan 25.4% ohonynt broblemau symudedd, gyda 5.9% yn dangos sgôr o 3, sy’n golygu problem symudedd difrifol.

Mae’n bwysig nodi bod yr holl waith dilysu sgorau symudedd trwy gydol y prosiect wedi cael ei gyflawni gan yr un person.

Yn ystod y chwe mis dilynol, bu system CattleEye yn monitro symudedd gwartheg ar y fferm; cafodd y wybodaeth ei hanfon at yr Athro Oikonomou a’i gynorthwyydd, Alkiviadis Anagnostopoulos, a chafodd Mr Evans restr o wartheg i’w hasesu a’r rhai a oedd yn barod am driniaeth trimio traed arferol ar ddechrau’r cyfnod llaetha neu cyn cael eu sychu.

Cyn dechrau’r prosiect, roedd Paul a Jack Nettleton yn ymweld â’r fferm yn fisol i drimio traed, ond cynyddodd Mr Evans nifer yr ymweliadau hyn i ddwywaith y mis i wneud gwell defnydd o’r wybodaeth a ddarparwyd gan CattleEye a Phrifysgol Lerpwl.

Chwe mis yn ddiweddarach, a dim ond 1% o’r fuches oedd yn cael sgôr o 3; ar draws y fuches gyfan, mae problemau symudedd (gwartheg gyda sgôr symudedd o 2 neu 3) wedi lleihau i 13.5%.

Mae Mr Evans yn hapus iawn gyda pherfformiad y system, gan ganfod clwyfau ar y traed na fyddai wedi cael eu darganfod fel arall; mae hefyd wedi gwaredu’r angen i sgorio’r gwartheg ei hun.

Dywedodd fod cloffni’n broblem y mae angen i’r diwydiant fynd i’r afael â hi, nid yn unig er mwyn sicrhau lles y gwartheg ac i fodloni cwsmeriaid llaeth, ond hefyd er mwyn atgyfnerthu’r busnes.

“Rydw i bob amser wedi dweud os mae traed a phwrs y gwartheg yn iach, mae popeth arall yn dod at ei gilydd.

“Mae sicrhau gwartheg iachach yn bwysig o safbwynt ffermwr a contract llaeth, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr economaidd. Mae angen amser ac ymdrech i wneud popeth ac mae’r ffaith bod technoleg yn gwneud y gwaith ar eich rhan yn golygu bod y dasg yn cael ei chwblhau.’’

Un o’r problemau mwyaf o ran atal cloffni yw ei ganfod yn gynnar; mae CattleEye wedi dangos ei bod hi’n bosibl canfod achosion cyn iddynt waethygu, meddai’r Athro Oikonomou.

“Rydym ni’n gwybod o waith ymchwil gyda ffermwyr mai eu canfyddiad o fuwch gloff yn aml iawn yw buwch sy’n aros ar ôl, yn methu â dal i fyny gyda gweddill y fuches, ond bydd llawer o wartheg yn dangos arwyddion cynnar o gloffni na fydd yn amlwg os nad ydych chi’n sgorio’r symudedd.

“Mae CattleEye yn un o’r ffyrdd posibl o fynd i’r afael â’r broblem honno.’’

Mae’r prosiect yn cael ei hwyluso gan Rhys Davies, swyddog technegol llaeth Cyswllt Ffermio yng Ngogledd Cymru.

Roedd Rhys yn credu bod gan y system botensial i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y diwydiant llaeth mewn ffordd debyg i odro robotaidd a semen wedi’i bennu yn ôl rhyw, gyda’r ddau o’r rhain wedi gwella’n sylweddol ers eu cyflwyno yn y lle cyntaf.

“Mae hwn yn un o’r prosiectau mwyaf addawol yr ydym ni wedi’i gynnal,’’ meddai Mr Davies.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cwrs Dysgu Cymraeg newydd ar gyfer y sector amaeth
19 Ionawr 2022 Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Ganolfan Dysgu
Magnesiwm cyn lloia’n cefnogi dulliau atal twymyn ar fferm laeth yng Nghymru
7 Ionawr 2022 Mae defnyddio nifer o strategaethau i atal twymyn
Milfeddygon yn cynghori ffermwyr am fagu lloi teirw o'r fuches odro yn llwyddiannus
14 Rhagfyr 2021 Bydd technegau magu da yn allweddol i economeg a