19 Mawrth 2025
Mae dau bathogen bacterol wedi cael eu hadnabod fel prif achosion mastitis mewn diadelloedd masnachol a fu’n rhan o astudiaeth a ariannwyd gan raglen Cyswllt Ffermio yng Nghymru.
Er bod 14 gwahanol straen o facteria wedi cael eu canfod mewn samplau llaeth o’r 12 diadell yn ystod cyfnod ŵyna 2023-24, Staphylococcus aureus a Mannheimia haemolytica oedd fwyaf cyffredin. Cafodd Staphylococcus aureus ei ganfod mewn 43% o’r samplau a Mannheimia haemolytica mewn 17% o’r samplau.
Cafodd patrwm tebyg ei gadarnhau mewn prosiect gwahanol a gynhaliwyd gan Grŵp Anifeiliaid Cnoi Cil Bychain yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn ystod yr un cyfnod, ac mae hefyd yn cyd-fynd ag astudiaethau blaenorol.
Roedd y rhan fwyaf o’r ffermwyr a fu’n rhan o’r astudiaeth Cyswllt Ffermio yn aelodau o grŵp trafod defaid Cyswllt Ffermio yn Sir Drefaldwyn, dan arweiniad yr ymgynghorydd defaid annibynnol, Kate Phillips, ond roedd yr astudiaeth hefyd yn cynnwys saith ffermwr o grwpiau trafod eraill ledled Cymru.
Yn ystod gweminar a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Cyswllt Ffermio, dywedodd fod yr astudiaeth hefyd wedi edrych ar ba straen o bathogenau ar ffermydd unigol sy’n dangos ymwrthedd i wrthfiotigau.
Dim ond 7% o samplau gyda Staphylococcus aureus oedd yn dangos ymwrthedd i’r gwrthfiotigau rheng flaen tetracycline a tylosin ac roedd 25% o’r samplau gyda Mannheimia haemolytica yn dangos ymwrthedd i tetracycline yn unig.
Fodd bynnag, nid oedd tetracycline mor effeithiol wrth drin Streptococcus dysgalactiae, sef y trydydd pathogen mwyaf cyffredin a ganfuwyd mewn samplau llaeth o’r 12 diadell, sydd hefyd yn un o’r prif ffactorau sy’n arwain at glwy’r cymalau mewn ŵyn.
Cynhaliwyd yr astudiaeth i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar achosion o fastitis, i alluogi ffermwyr i ddatblygu strategaethau i wella iechyd y famog ac arferion rheoli ac i leihau nifer y mamogiaid sy’n cael eu difa oherwydd y clefyd.
Mastitis yw un o’r clefydau pwysicaf sy’n effeithio ar famogiaid gan gostio mwy na £120 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant defaid yn y DU o ran costau uniongyrchol ac anuniongyrchol – bu farw 10% o’r mamogiaid gyda mastitis yn yr astudiaeth Cyswllt Ffermio hon, a chafodd 90% o’r rhai a oroesodd eu difa.
Gall cymaint â 25% o famogiaid o fewn diadell gael eu heffeithio, ond mae rhai astudiaethau wedi dangos cyfraddau llawer uwch.
Pan fo un famog yn dioddef o fastitis, mae’r ddiadell mewn mwy o berygl o ganlyniad i’w natur heintus a throsglwyddadwy meddai Mrs Phillips yn ystod y weminar.
“Mae peidio â bwydo digon o brotein ac egni yn ystod beichiogrwydd a’r cyfnod llaetha yn cynyddu’r risg o fastitis, felly sicrhewch eu bod yn cael lefelau digonol,” meddai.
Mae sgôr cyflwr corff (BCS) isel yn ystod y cyfnod ŵyna wedi cael ei gysylltu gyda mastitis clinigol ac is-glinigol, ychwanegodd Mrs Phillips, ac mae diffyg hylendid yn ystod y cyfnod ŵyna yn galluogi bacteria i luosogi, gan gynyddu’r siawns o haint.
Yn ôl tystiolaeth a gasglwyd gan AHDB fel rhan o’i raglen Gwella Elw, mae pwrs â chydffurfiad da yn gysylltiedig â llai o risg o fastitis – er bod pyrsau 81% o’r mamogiaid yn yr astudiaeth Cyswllt Ffermio yn normal, a bod 71% o’r tethi heb eu difrodi.
Mae adnodd Deall mastitis mewn defaid gan AHDB hefyd yn dweud bod y siawns o ddatblygu mastitis difrifol yn cynyddu wrth i’r mamogiaid fagu dau oen neu fwy, waeth beth fo oedran y famog, a bod y risg o ddatblygu mastitis yn cynyddu po hiraf y mae’r ŵyn yn aros dan do. Daeth yr astudiaeth hon i’r casgliad bod mwyafrif y mamogiaid gyda mastitis yn magu gefeilliaid.
Roedd y diadelloedd yn yr astudiaeth Cyswllt Ffermio yn cynnwys 563 o famogiaid ar gyfartaledd, ond roedd y diadelloedd yn amrywio o ran maint o 100 i 1,415 o famogiaid.
Roedd eu canran sganio yn 155% ar gyfartaledd, ac roedd canran yr achosion mastitis yn 3.8% ar gyfartaledd.
Roedd 86% o’r mamogiaid a gofnodwyd yn ŵyna dan do, gyda’r cyfnod yn y sied yn 6.6 wythnos ar gyfartaledd, ac roedd pob un o’r diadelloedd hynny’n gorwedd ar wellt, gyda mwyafrif y ffermydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd ucheldir.
Roedd 80% o’r mamogiaid a gofnodwyd yn cael eu bwydo ar silwair a dwysfwyd cyn ŵyna, ac 20% yn cael eu bwydo ar wair a dwysfwyd, ond roedd rhai o’r mamogiaid yn pori.
Er y credir bod bwydo dwysfwyd yn chwarae rhan drwy leihau’r galw am laeth a helpu i leihau sugno ffyrnig, roedd hanner y diadelloedd yn yr astudiaeth hon a oedd yn profi achosion o fastitis yn bwydo dwysfwyd i’r ŵyn.
Bu’r astudiaeth hefyd yn edrych ar lefelau orff, a gwelwyd ei fod yn bresennol ar 3% o byrsau’n unig.
O’r mamogiaid yn yr astudiaeth hon gyda mastitis, roedd ffermwyr yn adrodd bod 83% wedi cael poen laddwyr neu gyffuriau gwrthlidiol, ac roedd Dr Fiona Lovatt o gwmni Flock Health Ltd yn dweud bod hynny’n “newyddion da iawn”.
“Gwyddom nad yw llawer o ffermwyr yn rhoi poen laddwyr i ddefaid gyda mastitis bob amser, ond byddem yn argymell gwneud hynny gan ei fod yn glefyd hynod o boenus,” meddai.
Mae brechlyn ar gael ar gyfer Staphylococcus aureus, a roddir pum wythnos a phythefnos cyn ŵyna, ond er mwyn iddo fod yn gost effeithiol, dywedodd Dr Lovatt fod angen i’r ffermwr fod yn hyderus mai dyma’r pathogen sy’n achosi mastitis yn y ddiadell.
Mae samplu mamogiaid gyda mastitis, fel y mae’r prosiect hwn yn ei ddangos, yn ffordd dda o bennu’r bacteria sy’n ei achosi, ac mae’n ffordd bwysig i filfeddygon a ffermwyr wneud penderfyniadau priodol o ran brechu’r mamogiaid ychydig cyn ŵyna yn y flwyddyn ganlynol, meddai.