18 Mawrth 2025

Mae arolwg diweddar o ffermydd Cymru sy’n cymryd rhan yn yr Arolwg Adar sy’n Nythu wedi dangos arwyddion calonogol ar gyfer sawl aderyn sy’n destun pryder o safbwynt cadwraeth. Nododd arolwg adar sy’n nythu 2024, sef prosiect rhwng Cyswllt Ffermio a RSPB Cymru a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2024, 49 o rywogaethau adar gwahanol ar draws y ffermydd sy’n rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, gyda nifer cyfartalog o 29 rhywogaeth fesul fferm.

Bu i’r prosiect gysylltu gwirfoddolwyr gyda ffermydd sy’n cymryd rhan yn Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio i fonitro ac arolygu adar tir amaeth. Nod y prosiect oedd darparu data gwerthfawr i ffermwyr i lywio eu dealltwriaeth o rywogaethau ar eu ffermydd a hybu bioamrywiaeth o fewn y dirwedd amaethyddol, gan gyfrannu at waith monitro bioamrywiaeth ledled y DU.

Yn hollbwysig, mae wyth o’r rhywogaethau hyn yn cael eu dosbarthu fel adar tir amaeth sy’n destun pryder o safbwynt cadwraeth yn y DU: Gwenoliaid y Bondo, Aderyn y To, Gwybedog Mannog, Petrisen, Brych y Coed, Corhedydd y Coed, Corhedydd y Waun a’r Gog. Mae eu presenoldeb ar y ffermydd hyn yn amlygu pwysigrwydd posibl tir amaeth wrth ddarparu cynefin gwerthfawr i’r adar hyn a sut mae gan dir amaeth ran hanfodol i’w chwarae wrth gyfrannu at fioamrywiaeth ledled Cymru.

Mae’r adroddiad yn cynnig darlun clir o ba adar sy’n bresennol a’u helaethrwydd a dealltwriaeth fwy trylwyr am fywyd gwyllt o fewn y dirwedd amaethyddol.

Bydd yr adroddiadau sylfaenol hyn yn helpu ffermwyr i ddeall pa rywogaethau sy’n bresennol ar eu fferm a sut y gallant addasu eu harferion i ddiogelu’r rhywogaethau hyn neu annog rhai newydd. Bydd y data a gasglwyd hefyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o boblogaethau bywyd gwyllt mewn lleoliadau amaethyddol ledled Cymru.

"Gydag oddeutu 90% o dir amaeth yng Nghymru, mae arferion y byd amaeth yn chwarae rhan hanfodol yn nyfodol llawer o rywogaethau bywyd gwyllt y DU,” meddai Lynfa Davies, Swyddog Bioamrywiaeth Cyswllt Ffermio.

"Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn galonogol ac yn dangos yr effaith gadarnhaol y gellir ei chael trwy ymdrechion cydweithredol rhwng ffermwyr a gwirfoddolwyr. Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn ysbrydoli ffermwyr i ddarparu cynefin ychwanegol ar eu ffermydd wrth iddynt nodi camau gweithredu y gallant eu cymryd o fewn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yng Nghymru.”

Dywedodd Tîm Prosiect Monitro Bywyd Gwyllt Tir Fferm (VMFW) Gwirfoddolwyr RSPB Cymru fod arolygon fel hyn yn hollbwysig i ffermwyr a sefydliadau fel y RSPB.
“Mae’n amser hollbwysig i ffermwyr ddeall cyflwr bioamrywiaeth yn eu tirwedd, gan fod ffermydd a bywyd gwyllt yn wynebu newidiadau yn ymwneud â’r hinsawdd ac amaethyddiaeth. Mae cynnal arolwg bywyd gwyllt yn galluogi’r derbynnydd i weithredu trwy wybod pa rywogaethau sy’n bresennol, pam eu bod yn bresennol a sut y gellir eu hannog i ffynnu.”

“Mae arolygon hefyd yn galluogi prosiectau fel VMFW i ddeall pa adnoddau sydd eu hangen i ffermwyr gael eu hysbrydoli a bod yn hyddysg i weithredu dros fywyd gwyllt”.

Am ragor o wybodaeth am yr arolwg adar sy’n nythu neu am unrhyw wasanaeth arall sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, edrychwch ar ein gwefan 
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn canfod y prif heintiau sy’n achosi mastitis
19 Mawrth 2025 Mae dau bathogen bacterol wedi cael eu hadnabod
Meddu ar sgiliau ffermio gwych ond dim mynediad i dir neu gyfalaf?
17 Mawrth 2025 Ar hyn o bryd mae pedwar cyfle ffermio cyfran wych
Beth am roi hwb i Berfformiad eich Fferm: Ymgeisiwch nawr am Ddosbarth Meistr Cyswllt Ffermio
13 Mawrth 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfres o