3 Mawrth 2020

 

Ysgrifennwyd gan Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio.

 

Er gwaetha’r isadeiledd da er mwyn galluogi anifeiliaid i bori’n gynnar, mae’r tywydd gwlyb, ansefydlog diweddar wedi ei gwneud hi’n anodd iawn gwneud penderfyniadau ynglŷn â throi anifeiliaid allan yn gynnar ar fferm Erw Fawr. Mae anifeiliaid llai cynhyrchiol wedi cael eu troi allan am ychydig oriau yn ystod dyddiau sych, heulog a sefydlog yng nghanol mis Chwefror, ond mae cyfnod hir o bori wedi bod yn amhosibl.

Cwblhawyd taith gerdded ar draws y borfa ar 18 Chwefror i fesur gorchudd cychwynnol y fferm, gan gwblhau cynllun ar gyfer cylchdro’r gwanwyn, gyda’r bwriad o droi’r anifeiliaid allan ar 1 Mawrth. Bydd hyn yn sicrhau bod bron i’r holl badogau wedi cael eu pori cyn y dyddiad cydbwyso, lle mae twf y glaswellt yn bodloni gofynion y fuwch. Os bydd y tywydd gwlyb yn parhau, bydd angen rheoli’r borfa’n ofalus, megis pori am gyfnodau byr, rheoli archwaeth y fuwch a phori padogau sychach yn y lle cyntaf. Heb lwybrau digonol, ni fyddai’n bosibl rheoli’r borfa yn ystod tywydd gwlyb.

Mae’r graff a’r tabl isod yn dangos faint o’r borfa mewn hectarau (ha) y dylid ei phori bob dydd a’r canran i’w bori erbyn diwedd bob wythnos. Trwy ddilyn y cynllun hwn, dylai’r ail gylchdro ddechrau ar 13 Ebrill, gyda hyd y cylchdro’n lleihau o 100 diwrnod i 18 diwrnod.

 

Awgrymiadau da ar gyfer pori yn ystod tywydd gwlyb:

  • Cerddwch ar draws padogau sychach yn rheolaidd i asesu cyflwr y tir
  • Defnyddiwch nifer o fannau mynediad
  • Ffensiwch ardaloedd sydd wedi’u pori
  • Sicrhewch fod gan wartheg ddigon o archwaeth bwyd cyn eu troi allan
  • Porwch am gyfnodau byr a dwys cyn dod â’r gwartheg i mewn
  • Ystyriwch droi llai o wartheg allan e.e. dim ond hanner y fuches
  • Peidiwch â chymryd sylw neu gael eich dylanwadu gan negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos gwartheg yn pori yn yr awyr agored

Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu