6 Rhagfyr 2021
Mae gan synwyryddion sy’n cael eu treialu ar fferm laeth yn Ynys Môn i gynorthwyo gyda gwasgaru slyri y potensial i helpu'r diwydiant gyda rheoliadau atal llygredd y dyfodol.
Mae Erw Fawr, un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio ger Caergybi, yn defnyddio synwyryddion sydd wedi’u cysylltu ag amledd radio LoRaWAN (Rhwydwaith Mynediad Ardal Eang Pŵer Isel) i ganfod pan fydd amodau'r ddaear yn addas ar gyfer gwasgaru slyri.
Mae'r gwaith hwn yn digwydd gyda chymorth ariannol gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) Cymru. Dywedodd brocer EIP y prosiect, Geraint Hughes, o Grŵp Ymgynghori Lafan, mai’r nod oedd helpu ffermwyr i leihau’r risg o lygredd dŵr ffo wrth wasgaru slyri. Gallai hyn, meddai, fod yn berthnasol iawn i'r drafodaeth dros ddyfodol rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol yng Nghymru.
“Os gall ffermwyr brofi eu bod yn monitro gwasgariad trwy ddefnyddio synwyryddion, mae ganddo’r potensial i gynnig hyblygrwydd wrth weithredu rheoleiddio yn y dyfodol,” dywedodd wrth ffermwyr yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Erw Fawr yn ddiweddar.
Cred Mr Hughes mai'r treial yn Erw Fawr yw'r cyntaf yn y DU i ddefnyddio LoRaWAN ar fferm fasnachol at y diben hwn.
“Mae hyn ar flaen y gad ym maes technoleg,” meddai.
Sganiwyd caeau yn Erw Fawr ar gyfer lefelau maetholion a math o bridd cyn i'r synwyryddion gael eu rhoi yn y pridd. Mae'r stilwyr yn mesur lleithder a thymheredd y pridd, tymheredd yr aer a glawiad. Mae'r data crai yn cael ei ddilysu a'i lanhau cyn ei gymhwyso i raglen a all gynhyrchu hysbysiadau yn erbyn set o baramedrau a bennwyd ymlaen llaw.
Mae'r dechnoleg bellach wedi bod yn ei lle ers pum mis, ac mae'r data'n cael ei ddadansoddi. Dywedodd Mr Hughes fod y prosiect yn gweithio tuag at ddatblygu system ‘RAG’ (coch, ambr a gwyrdd) i nodi addasrwydd cae ar gyfer gwasgaru slyri.
Mae Cyswllt Ffermio wedi gosod dyfeisiau porth LoRaWAN gydag antena bach ynghlwm wrth adeiladau fferm ar ei holl safleoedd arddangos. Gall y dyfeisiau hyn gysylltu â myrdd o synwyryddion sy'n casglu data a'i drosglwyddo i ddangosfyrddau ar ffonau symudol a dyfeisiau eraill, gan wneud dadansoddiad yn syml i ffermwyr.
“Nid yw LoRaWAN wedi ei drwyddedu, felly mae’n gyfle gwych i bobl ddatblygu cynhyrchion at eu defnydd eu hunain neu ar ffermydd lleol,” dywedodd Mr Hughes.
Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.