4 Mehefin 2020

 

Mae fferm laeth yng Nghymru yn profi bod modd rhedeg buches Holstein gyda pherfformiad llaetha uchel ar system bori.

Mae pori padogau yn gysylltiedig â buchesi lloia bloc o wartheg a fegir yn benodol ar gyfer cynhyrchu llaeth o borfa, ond mae Ceredig a Sara Evans wedi mabwysiadu'r system hon ar gyfer eu buches Holstein bedigri ar fferm Erw Fawr, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Caergybi.

Mae glaswellt i’w bori wastad wedi bod yn rhan o'u busnes ond heb system gywir o fesur, cynllunio a chyllidebu porfa, ni fanteisiwyd yn llawn ar ei ddefnydd a'i ansawdd posibl.

Bellach, mae'r teulu Evans wedi cychwyn ar brosiect gyda Cyswllt Ffermio i wella'r defnydd a chynyddu cymhareb y borfa yn niet y gwartheg, er mwyn lleihau costau porthiant a brynir i mewn.

Roedd llwybrau ac isadeiledd pori arall eisoes yn bodoli ar y daliad 192 hectar (ha) ond gyda chymorth Sarah Morgan o Precision Grazing, mapiwyd padogau bellach, a lluniwyd cynllun pori.

Mae'r padogau 1.5ha hynny yn cael eu pori yn ystod y gwanwyn eleni gan 140 o wartheg cyflo ar ganol i ddiwedd eu cyfnod llaetha, a chedwir 100 o wartheg gyda pherfformiad llaetha uchel yn ystod eu cyfnod llaetha brig y tu mewn am 100 diwrnod er mwyn rheoli cyfanswm eu porthiant.

Mae defnyddio meddalwedd rheoli porfa AgriNet wedi cyfrannu at y penderfyniadau ynglŷn â pha gaeau i'w neilltuo ar gyfer silwair, gan sicrhau bod gwartheg yn mynd i badogau sy'n cynnwys gorchudd priodol nad yw dros 3,000kgDM/ha.

Dywed Ceredig fod gwybod yn gynnar yn y gwanwyn pa gaeau i'w pori gyntaf a chael dealltwriaeth well o gyfraddau tyfiant adferiad porfa a hyd cylchdroi, wedi rhoi'r hyder iddo i droi rhan o'i fuches allan yn gynharach nag arfer. 

Mae hyn wedi caniatáu iddo wneud mwy o bori yn y gwanwyn, gan arwain at gynnydd yng nghyfanswm y tunelledd a dyfir ac a ddefnyddir.

Trwy neilltuo safleoedd pori dyddiol yn gywir, cynigir porfa yn ystod y cam tair deilen gorau bellach, pan fydd yn cynnwys lefelau da o egni metaboladwy (ME) a threuliadwyedd (gwerth D);  mae hyn yn gadael gweddillion hydrin ar gyfer tyfiant newydd o ansawdd da yn y cylchdro nesaf.

Nod y teulu Evans yw cael gweddillion ar ôl pori o 1,500/1,600kgDM/ha.

Yn ystod y rownd bori gyntaf, roedd y grŵp pori yn cynhyrchu 30 litr o laeth fesul buwch bob dydd ar gyfartaledd, sef 2.3 cilogram solidau llaeth (MS) o 15 cilogram deunydd sych (DM) porfa a 6 cilogram DM dwysfwyd y dydd yn y parlwr.

“Yn ystod y cyfnod sych presennol, gallwn leihau galw’r gwartheg wrth sychu gwartheg yn gynt neu tynnu stôc ifanc oddi ar y platform pori.”

Mae rheoli porfa yn anos na bwydo Dogn Cymysg Cyflawn (TMR).

“Gyda TMR, rydych yn gwybod yr hyn y mae gwartheg yn ei gael bob dydd, ond y trefniadau rheoli sy'n pennu ansawdd y borfa,” dywedodd Sarah Morgan.

“Gyda rheolaeth dda ar fferm Erw Fawr, mae tir pori wedi bod yn tyfu 12ME, sy'n well na'r hyn y gallwch ei gael mewn bag ac mae'n llawer rhatach.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol