Newyddion diweddaraf Erw Fawr - Awst 2020
Ffigwr 1. Cyfanswm tyfiant glaswellt 2020 yn Erw Fawr hyd at fis Awst.
Mae cyfanswm y tyfiant glaswellt yn Erw Fawr cyn belled eleni wedi bod ar gyfartaledd o 8.8 tunnell o gynnwys sych i bob hectar. Gwelwyd amrywiaeth mawr o ran faint o dyfiant glaswellt oedd rhwng gwahanol badogau. Mae rhai o’r padogau sydd wedi perfformio orau wedi cynhyrchu bron i 15 tunnell tra mae eraill wedi cynhyrchu dim ond 7.5 tunnell o gynnwys sych. Bydd y gwaith a wnaed wrth fesur a chofnodi tyfiant glaswellt yn rhoi dealltwriaeth werthfawr o berfformiad caeau unigol, gan gynnig cyfle i weithredu camau effeithiol i adfer y sefyllfa ar gaeau sy’n tan-berfformio.
Blog – Effaith gwell defnydd o laswellt ar Erw Fawr
Un o brif nodau’r prosiect yn Erw Fawr oedd cynyddu’r defnydd o laswellt sy’n cael ei bori. Mae llawer o’r ffermwyr glaswellt mwyaf llwyddiannus yn llwyddo i ddefnyddio dros 90% ond dim ond 50% y byddai rhai unedau stocio sefydlog yn ei gael, faint bynnag o laswellt a dyfir. Wrth ddefnyddio’r rhagolygon o ran y glaswellt a dyfir, byddai cynyddu’r defnydd o 60% i 85% yn Erw Fawr yn cyfateb i’r buchod yn bwyta gwerth £10,125 yn ychwanegol o gynnwys sych o laswellt a borir yn hytrach na’i ategu trwy ddwysfwyd drytach a silwair.
Mae’r gymhareb cost dwysfwyd, silwair a glaswellt a borir fel arfer yn dilyn cymhareb o 3:2:1 o ran £/tDM
Mae Buches 1 wedi seilio dogn y buchod ar laswellt a borir gyda dwysfwyd yn cael ei ychwanegu yn y parlwr.
Mae Buches 2 wedi seilio dogn y buchod ar silwair o safon uchel gyda dwysfwyd yn cael ei ychwanegu.
Mae Buches 3 wedi seilio’r ddogn ar ddwysfwyd a silwair gyda rhywfaint o bori yn ystod misoedd yr haf.
Trwy ddefnyddio’r rhai sy’n cynhyrchu lleiaf ar Erw Fawr fel enghraifft, mae’r dogn wedi ei seilio ar sefyllfa debyg i Fuches 1 lle mae glaswellt a borir yn cyfateb i’r brif gyfran o’r dogn ar 17kgDM/y fuwch/y dydd gyda dwysfwyd yn cael ei fwydo ar 5kgDM/y fuwch/y dydd. Nid yn unig mae hyn yn cadw costau porthi ar sail kgDM/y fuwch yn isel mae hefyd yn hybu gwell ymddygiad pori gan y buchod a gwell ail-dyfiant yn y glaswellt. Ni fydd yr enghraifft a ddangosir yn Buches 3 lle mae cyfran fwy o ddwysfwyd a silwair mewn cymhariaeth â glaswellt yn y Dogn Cymysg Cyflawn (TMR) yn hybu ymddygiad pori da, defnydd effeithiol nag ail-dyfiant y glaswellt.