Cyflwyniad Prosiect Erw Fawr: Prosiect Pyrth Lorawan yn Edrych ar Gysylltu Tymheredd y Pridd a’r Aer Gyda Chyfradd Twf Glaswellt ar Safle Arddangos Llaeth Cyswllt Ffermio

Mae Erw Fawr, un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, wedi gosod synwyryddion LoRaWAN (Rhwydwaith Mynediad Ardal Eang Pŵer Isel) i gasglu data tymheredd y pridd i’w gymharu gyda chyfraddau twf glaswellt yn ystod tymor pori 2021. Gosodwyd y system ym mis Hydref 2020, ac mae’r synhwyrydd bychan wedi bod yn anfon data tymheredd y pridd bob 15 munud drwy borth LoRaWAN a osodwyd ar un o’r siediau ciwbicl. Mae’r data hwn yn cael ei ddehongli ar ddangosfwrdd pwrpasol ar ffurf cyfres o graffiau a thaflenni data y gellir eu lawrlwytho. Gellir gosod trothwy ar gyfer y data, ac mae modd gosod larwm ar ddyfais symudol i hysbysu’r ffermwr os oes angen gweithredu, e.e. yr amser cywir i wasgaru gwrtaith, neu a yw’r pridd mewn cyflwr addas er mwyn gallu gwasgaru tail. Bydd y fferm yn darparu cofnodion wythnosol o dwf y glaswellt fel rhan o Brosiect Porfa Cymru a bydd data tymheredd y pridd yn cael ei roi gyda’r data hwn wrth i’r tymor tyfu fynd yn ei flaen. Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyswllt Ffermio yma.

Ffigwr 1. Synhwyrydd tymheredd deuol wedi’i osod ar bostyn yn un o’r padogau

 

Graff 1. Cofnodion tymheredd ar fferm Erw Fawr (Gwyrdd = Pridd,  Coch = Aer)