Camera CattleEye Erw Fawr ar waith

 

Lluniau: CattleEye ar waith yn Erw Fawr

 

Cyn bo hir bydd ffermwyr yn gallu defnyddio meddalwedd arbennig sy’n gallu adnabod gwartheg ac unrhyw newid yn eu hymddygiad er mwyn sgorio symudedd eu buches yn awtomatig ddwywaith y dydd, pob dydd, trwy ddefnyddio camerâu teledu cylch cyfyng (TCC) presennol sydd wedi eu cysylltu i’r we. Mae un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, Erw Fawr, sy’n cael ei ffermio gan Ceredig Evans wedi dechrau defnyddio’r feddalwedd er mwyn adnabod a thrin gwartheg cloff yn gynt.  

Ystyrir sgorio symudedd yn weithgaredd rheoli allweddol ynghyd â thasgau fel canfod os yw buwch yn gofyn tarw. Mae defnyddio system sgorio symudedd RoMS (Register of Mobility Scorers) 0-3 wedi bod yn llwyddiannus iawn ar lawer o ffermydd er mwyn lleihau lefelau cloffni. Mae’r Athro George Oikonomou o Brifysgol Lerpwl wedi bod yn gweithio gyda Ceredig Evans yn Erw Fawr er mwyn treialu’r feddalwedd CattleEye ac asesu ei effaith ar iechyd a pherfformiad yr anifeiliaid. Bydd y trimiwr traed sy’n dod i’r fferm yn rheolaidd unwaith y mis nawr yn dod ddwywaith y mis am gyfnod y prosiect er mwyn trin y gwartheg sydd wedi cael eu canfod yn gloff gan feddalwedd CattleEye. 

Gan amlaf, cofnodir sgôr symudedd â llaw unwaith neu ddwywaith y mis. Yn ddelfrydol, ni ddylai’r person sydd wedi cael ei benodi i gwblhau’r dasg ddelio gyda’r gwartheg yn uniongyrchol, a dylai dderbyn hyfforddiant i adnabod sensitifrwydd digonol.  Mae CattleEye yn seiliedig ar ddysgu peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial sy’n galluogi’r feddalwedd i adnabod y gwartheg o’u marciau heb yr angen am goleri, tagiau nag offer mesur camau gwartheg. Yna, mae’n gallu barnu symudedd y fuwch trwy ddefnyddio algorithmau gan filoedd o wartheg sydd wedi cael eu cysylltu â’r system. Caiff hyn ei wneud yn dawel trwy lens wrthrychol a ddiduedd na fydd byth yn rhuthro na chael effaith ar gerddediad arferol y fuwch os oes unrhyw bresenoldeb dynol gerllaw.  Gall Ceredig fewngofnodi ar unrhyw adeg er mwyn edrych ar adroddiad symudedd ar gyfer y godro blaenorol a gwirio am unrhyw arwyddion cynnar o gloffni ac arwyddion o wella ar ôl triniaeth. Yn syth ar ôl i’r feddalwedd ganfod unrhyw newid mewn symudedd, gall Ceredig asesu troed y fuwch i ymchwilio ddyddiau, wythnosau o bosib, cyn i unrhyw arwyddion fod yn weledol i fod dynol.