Mae techneg newydd sy’n canfod presenoldeb malwod y llaid sydd wedi’u heintio â llyngyr trwy ganfod eu DNA mewn dŵr yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo ffermydd yng Nghymru i adnabod cynefinoedd sydd â’r potensial mwyaf i heintio da byw gyda’r parasitiaid.
Bu prosiect ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio ac Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn edrych ar gynefinoedd posibl ar gyfer malwod y llaid ar bum fferm ar draws Cymru.
Mae presenoldeb malwod y llaid yn ffactor risg amlwg ar gyfer heintiau llyngyr mewn da byw gan fod y malwod yn rhan annatod o gylchred bywyd y llyngyr.
Nid yw’r malwod yn bresennol ym mhob ardal wlyb yn wahanol i’r canfyddiad cyffredinol, ac nid yw canfod y malwod yn hawdd gan fod angen staff sydd wedi derbyn hyfforddiant er mwyn adnabod cynefinoedd a allai fod yn addas, canfod y creaduriaid bychain hyn a gwahaniaethu rhwng y rhain a malwod eraill nad ydynt yn cario llyngyr.
Dywed Dr Hefin Williams, darlithydd mewn amgylcheddau amaethyddol yn IBERS, a fu’n arwain yr astudiaeth, y byddai’r broses yn anymarferol ar raddfa genedlaethol gan ei fod yn ddrud ac yn cymryd llawer o amser, ond gallai prawf DNA amgylcheddol a ddatblygwyd gan Brifysgol Aberystwyth gynnig ateb.
Yn ystod yr arbrawf Cyswllt Ffermio, gwelwyd bod DNA malwod yn bresennol ym mhob cynefin lle cafodd malwod eu canfod, yn ogystal â mewn cynefinoedd lle na welwyd malwod.
“Mae’r prawf hefyd wedi amlygu DNA llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen mewn cynefinoedd malwod y llaid sydd hefyd yn addawol wrth i ni edrych i ddatblygu’r prawf ymhellach yn y dyfodol a’i ddefnyddio i asesu’r risg o haint llyngyr mewn caeau,” meddai Dr Williams.
Ymwelwyd â’r pum fferm - un fferm laeth a phedair fferm bîff a defaid - hyd at bedair gwaith rhwng Mai a Hydref 2018, gan archwilio’r cynefinoedd dro ar ôl tro.
Cafodd dŵr o’r cynefinoedd ei hidlo gan ddefnyddio hidlwyr sy’n dal DNA, ac yna cawsant eu sgrinio i chwilio am DNA malwod y llaid, llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen.
Dywed Dr Rhys Jones, a fu’n rhan o’r gwaith ymchwil fel rhan o’i ddoethuriaeth, fod grwpiau da byw wedi’u heintio gyda llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen wedi cael eu canfod gan ddefnyddio cyfrifon wyau ysgarthol (FEC).
“Erbyn diwedd y prosiect, roedden ni’n gallu gweld a fyddai malwod y llaid yn debygol o fod yn bresennol mewn cynefinoedd a chanfod eu statws heintiad llyngyr gan ddefnyddio dadansoddiad DNA.”
Cafodd pob un o’r ffermydd fap manwl yn asesu heintiad llyngyr ym mhob ardal.
“Y gobaith yw y bydd y mapiau yma’n cynorthwyo ffermwyr i wneud penderfyniadau rheolaeth deallus yn dilyn ymgynghoriad gyda’u milfeddyg i helpu gyda rheoli llyngyr,’’ meddai Dr Jones.
“Gall gweithgareddau i leihau’r cyswllt rhwng da byw a llyngyr ar borfa, megis ffensio a draenio, fod yn gostus a bydd gallu nodi a blaenoriaethu’r cynefinoedd sy’n peri’r risg mwyaf yn ddefnyddiol er mwyn rheoli risg llyngyr yn y dyfodol, yn enwedig wrth i fygythiad ymwrthedd anthelminitig gynyddu.’’
Daw’r astudiaeth hon ddwy flynedd wedi i dîm o IBERS – un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio – gyhoeddi gwaith ymchwil ar bresenoldeb llyngyr y rwmen ar ffermydd yng Nghymru. Daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod llyngyr y rwmen yn bresennol ar 61 y cant o ffermydd a samplwyd, roedd llyngyr yr iau yn bresennol ar 68% ohonynt ac roedd haint ar y cyd o’r ddau fath o lyngyr yn bresennol ar 46% o’r ffermydd. Dim ond 17% ohonynt oedd heb yr un o’r ddau.
O’r pum fferm sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith ymchwil diweddaraf, mae rhai ohonynt wedi ffensio er mwyn gwahanu cynefin lle maen nhw newydd ganfod malwod y llaid oddi wrth dda byw, yn ogystal ag addasu eu rhaglen rheoli llyngyr i brofi da byw yn y gwanwyn i sicrhau bod anifeiliaid sy’n rhyddhau wyau llyngyr i gynefinoedd malwod y llaid yn cael eu hadnabod gan ddefnyddio profion FEC ac yn derbyn triniaeth.
ASTUDIAETH ACHOS
Roedd llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen yn bresennol ar fferm yr Hafod ger Llandysul, ac roedd lefel llyngyr y rwmen gyda’r uchaf a gofnodwyd erioed gan y tîm ymchwil.
Cafwyd hyd i chwe chynefin malwod ar y fferm laeth 120 erw hon, sy’n cael ei ffermio gan Liam ac Annie James mewn partneriaeth gyda thad Annie, Clive Lott.
Roedd malwod o fewn tri o’r cynefinoedd hyn wedi’u heintio gyda haint llyngyr yr iau a chanfuwyd haint llyngyr y rwmen mewn malwod ar ddau o’r safleoedd.
“O ystyried nifer y malwod a welwyd yn y cynefinoedd hyn a maint y cynefinoedd, byddai’n rhesymol i ddod i’r casgliad eu bod yn peri risg sylweddol o heintio da byw sy’n pori’r ardaloedd cyfagos,’’ meddai Dr Williams.
Mae’r teulu ar eu pedwaredd flwyddyn o ffermio’r Hafod, ac er eu bod yn ymwybodol bod draenio gwael wedi arwain at rai ardaloedd gwlyb iawn, roedden nhw wedi’u syfrdanu gan ganlyniadau’r gwaith samplu.
“Roedden ni wedi derbyn adroddiadau o’r lladd-dy bod llyngyr yr iau yn bresennol mewn rhai o’r gwartheg i’w difa, ond doedden ni ddim yn ymwybodol bod llyngyr y rwmen yn bresennol yn y fuches,” meddai Mr James.
“Gall llyngyr yr iau a chyfnodau cynnar llyngyr y rwmen effeithio ar gynnyrch llaeth, ond ni fyddai modd i chi allu canfod a yw’r fuwch wedi’i heintio o edrych arni’n unig.”
Mae’r astudiaeth wedi bod o fudd mewn sawl ffordd. Yn hytrach na defnyddio triniaeth llyngyr sy’n trin llyngyr yr iau yn unig, rydym bellach yn defnyddio triniaeth sy’n trin llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen yn ystod y cyfnod sych.
Mae’r teulu hefyd yn gallu blaenoriaethu’r meysydd sydd angen eu draenio a’u ffensio oddi wrth y da byw.
“Rydym wedi gosod ffensys dros dro fel rheolaeth tymor byr,’’ meddai Mrs James.
Mae’r fferm wedi bod angen tipyn o fuddsoddiad ond mae’n dweud bod yr astudiaeth wedi dangos bod angen i ffensio a draeniad mewn ardaloedd risg uchel fod yn flaenoriaeth.
“Ni fydd yn gwella dros nos, ond dylai’r ymwybyddiaeth a’r newidiadau yr ydym yn eu rhoi ar waith fod o
gymorth.’’Mae’r fuches o 140 o wartheg Friesian a gwartheg Norwegian Red croes sy’n lloia yn y gwanwyn yn y cynhyrchu cyfartaledd blynyddol o 5,000 litr gyda lefel protein o 3.50% a 4.15% o fraster menyn, ac mae’r llaeth yn cael ei werthu i Arla.
Dywedodd Mr James y dylai mynd i’r afael â’r broblem llyngyr gynyddu cynhyrchiant llaeth.
“Bydd angen buddsoddi er mwyn trechu’r broblem, ond dylai peth o’r gwaith dalu amdano ei hun os allwn ni gynhyrchu mwy o laeth.’’