Parc y Morfa Farms Ltd (Trebover), Abergwaun

Prosiect Safle Ffocws: Coeden benderfyniadau lloi a dyluniad ar gyfer sied lloi newydd

 

Bydd prosiect lloi Parc y Morfa yn edrych i ddatblygu ‘coeden benderfyniadau’ lloi a fydd yn tywys ffermwyr trwy broses cam wrth gam pan na fydd iechyd lloi mor dda ag y dylai fod a phan mae’n anodd adnabod y rheswm pam. 

Bydd y prosiect yn archwilio ystod o dechnegau monitro ar gyfer dod o hyd i salwch yn gynnar, yn ogystal â phrotocolau rheoli allweddol. Bydd y ‘goeden benderfyniadau’ hefyd yn cyfeirio at anghenion siediau ac yn cynnig syniadau o ran yr hyn efallai bydd ei angen os yw adeilad newydd yn cael ei ystyried.

Nodau’r prosiect

  • Datblygu coeden benderfyniadau ar gyfer adnabod achosion o salwch mewn lloi ac opsiynau ar gyfer trin yr achosion hynny
  • Datblygu diagram llif o gwestiynau sydd angen i chi eu hystyried cyn dechrau ar y broses o adeiladu sied newydd i loi
  • Datblygu protocolau i atal achosion o salwch mewn lloi 

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Halghton Hall
David Lewis Halghton Hall, Bangor Is-coed, Wrecsam Meysydd
Nantglas
Iwan Francis Nantglas, Talog, Sir Gaerfyrddin Meysydd allweddol
Cae Haidd Ucha
Paul a Dwynwen Williams Cae Haidd Ucha, Nebo, Llanrwst Prif