9 Mawrth 2023
Mae gwneud newidiadau allweddol i siediau lloi a phrotocolau bwydo yn helpu fferm laeth yn Sir Benfro i wella iechyd stoc ifanc.
Pan newidiodd Parc y Morfa Farms Limited o ffermio bîff i gynhyrchu llaeth yn 2015, nid oedd y siediau’n caniatáu ardal ar wahân ar gyfer lloi.
Cânt eu magu yn yr un adeilad ag anifeiliaid hŷn a, thrwy rannu’r gofod awyr hwnnw, roedd canlyniadau o ran trosglwyddiad clefydau i’r anifeiliaid iau a oedd yn fwy agored i niwed.
Roedd corlannau lloi hefyd wedi'u gosod ar gyfer grwpiau mawr a'r system 'pawb i mewn, pawb allan' a oedd wedi bod yn ei lle pan brynwyd lloi bîff i'w magu ar beiriant bwydo lloi awtomatig.
Pan ddefnyddiwyd y dull hwn ar batrwm lloia bloc y fferm, gyda grwpiau mawr o wahanol oedrannau, roedd anifeiliaid iau â systemau imiwnedd llai sefydledig dan bwysau oherwydd afiechyd.
Dwysaodd y broblem wrth i nifer y buchod gynyddu, i'r fuches bresennol o 220 buwch.
I ddod o hyd i ddatrysiadau wrth symud ymlaen, ymunodd y teulu Williams â Cyswllt Ffermio mewn prosiect fferm ffocws 'coeden benderfyniadau lloi' gyda chyngor arbenigol a ddarparwyd gan y milfeddyg Kat Hart, o’r George Veterinary Group.
Cyflwynwyd nifer o newidiadau:
- Mae’r siediau wedi'u hôl-ffitio gyda byrddau Efrog i wella'r awyru
- Mae lloi’n cael eu bwydo â llaeth cyflawn ffres ar lefel protein a braster o 28-32% – sy’n sylweddol uwch na’r llaeth powdwr (CMR)
- Mae lloi'n cael eu magu mewn grwpiau llai, 10-15 i gyd o fewn ystod oedran o bythefnos
Mae iechyd lloi wedi gwella ond mae'r teulu Williams wedi penderfynu mynd â'r rhaglen o welliannau gam ymhellach drwy fuddsoddi mewn sied loi bwrpasol, sydd i'w chomisiynu y gwanwyn hwn.
Mae gan yr adeilad ffrâm ddur 105 troedfedd wrth 50 troedfedd le i gadw 140 o loi ac mae wedi'i leoli ar safle de-orllewinol ar gyfer cylchrediad da o aer glân.
Mae'n sefyll 11 troedfedd i'r bondo gydag awyrell grib uchel ac mae ganddo nifer uwch na'r arfer o gynfasau to Persbecs i wneud y mwyaf o olau'r haul yn dod i mewn.
Bydd lloi'n cael eu grwpio mewn corlannau o 10, pob un â man gorwedd pwrpasol â gwasarn gwellt i ffwrdd o’r peiriannau bwydo a'r peiriannau yfed i leihau lleithder ar y gwasarn.
Dyluniwyd y sied i’w gwneud yn hawdd i’w defnyddio, meddai Rhys Williams, sy’n ffermio gyda’i frawd, Randal, a’i dad, Phil, ac sydd yn gyfrifol am fagu lloi yn fferm Trebover. “Os yw darn o waith yn haws i'w wneud mae'n fwy tebygol o gael ei wneud,'' mae'n awgrymu.
“Er enghraifft, mae gan ein system bresennol lawer o gatiau ynghlwm wrth ei gilydd ac mae hyn yn ei gwneud yn anodd rheoli lloi.''
Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Fferm Trebover yn ddiweddar, rhoddodd Dr Hart ganllaw cam wrth gam ar y gofynion allweddol y dylai ffermwyr eu disgwyl o siediau fferm.
Pwysleisiodd pam mae cael hyn yn iawn mor bwysig.
“Dyfodol buches yw lloi, os gallwn fuddsoddi ynddynt yn y chwe wythnos gyntaf hollbwysig hynny, y trymach ac iachach y byddant wrth ddiddyfnu. Bydd hynny'n trosi i gynhyrchiant llaeth a hirhoedledd pan fyddant yn ymuno â'r fuches odro neu'n effeithlonrwydd trosi porthiant mewn gwartheg pesgi.''
Bydd awyr iach sy'n cylchredeg mewn adeilad trwy awyru da yn lladd llawer o firysau, dywedodd Dr Hart. “Os gallwn gael awyr iach i mewn, y lleiaf o bryfed a nitradau yn amgylchedd y lloi.''
Oherwydd eu maint, nid yw lloi yn ddigon trwm i sbarduno'r hyn a elwir yn 'effaith stacio', pan fydd grymoedd gwres y corff yn gwthio aer i fyny ac allan drwy'r bondo, felly mae lleoliad siediau lloi yn bwysig; efallai y bydd angen system ffan neu diwb pwysedd positif.
Dim ond 0.3m yr eiliad y mae angen i ddrafftiau fod yn teithio er mwyn i'r llo deimlo'n oer, felly os ydych chi'n gwneud newidiadau i'r siediau presennol, ystyriwch ddefnyddio byrnau neu gynfasau i greu rhwystrau rhag drafftiau ar uchder lloi, awgrymodd Dr Hart.
Yn ogystal â drafftiau, rhaid cadw lefelau lleithder i’r lleiafswm hefyd – mae’n cymryd 3.4 awr o egni llo i anweddu un litr o ddŵr, egni y gallai’r anifail fod yn ei ddefnyddio yn lle hynny i droi ei borthiant yn dyfiant. Mae lleithder hefyd yn cynyddu cyflymder lledaeniad pathogenau fel cryptosporidiwm.
Mae angen monitro tymheredd yr aer yn yr adeilad oherwydd pan fydd yn disgyn islaw tymheredd critigol isaf anifail - 15°C ar gyfer llo Holstein nodweddiadol - mae angen ymyrryd â chotiau, gwresogyddion neu borthiant ychwanegol; am bob 5°C yn is na 15°C, bydd angen 100g ychwanegol o laeth powdr (CMR) y dydd ar lo.
“Os oes pum diwrnod pan nad yw’r tymheredd yn mynd yn uwch na 10°C, dechreuwch wisgo cotiau amdanynt neu ychwanegwch laeth neu bowdr llaeth ychwanegol,” meddai Dr Hart.
Dylid dylunio siediau lloi fel eu bod yn hawdd eu glanhau gyda diheintyddion penodol – mewn buchesi sy’n lloia drwy’r flwyddyn, dylid eu glanhau’n drylwyr unwaith y flwyddyn pan gaiff siediau eu glanhau a’u gadael yn wag i sychu am bythefnos.
Ystyriwch gael baddonau traed wrth fynedfeydd ac allanfeydd y sied er mwyn cyfyngu ar ledaeniad clefydau, dywedodd Dr Hart.
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.