Fferm Cilwrgi

Mae coetir yn medru bod yn ffordd dda o wella agweddau amgylcheddol ac economaidd busnes fferm. Roedd y drafodaeth ar y fferm yn edrych ar y posibilrwydd o wneud hyn yn ddewis ymarferol i ffermydd.

Sut y gallai rheoli coetir wella busnes fferm.

Roedd hyn yn gyfle gwych i weld rheoli coetir ar waith a gweld sut mae’n cyfrannu at wella agweddau amgylcheddol ac economaidd y busnes fferm. 

  • Arddangos technegau rheoli trwy waith fferm
  • Logisteg rheoli coetir fferm, o gwympo coed a chlirio, i drin a phrosesu er mwyn ychwanegu gwerth
  • Adnabod mathau o gynnyrch y mae’r coed yn addas ar eu cyfer a pha farchnadoedd lleol i werthu iddynt.
  • Rheolau a rheoliadau’r ddeddfwriaeth ar drwydded cwympo coed
  • Sut i sicrhau cyflenwad o goed ar gyfer y dyfodol a chynyddu incwm fferm.

Negeseuon Allweddol

Dechreuodd ein trafodaeth gydag arddangosiad o beiriannau torri a chlirio coed ar raddfa fferm.  Roedd y peiriannau, a ddarparwyd gan Cilwrgi, yn cynnwys craeniau High Lift cherry picker, melin lifio Woodmizer, trelar coed, Forwarder ar gyfer cario coed o’r coetir, winsh 9 tunnell ar gyfer clirio coed o’r coetir, Chopper, Post Peel a phrosesydd polion ffens. Dangosodd hyn faint a graddfa addas y peiriannau sydd eu hangen ar gyfer rhoi trefn rheoli addas ar waith yn y coetir.  Cafodd pwyslais ei roi ar ganfod technegau clirio sensitif a chlirio coed o goetir mewn ardaloedd dynodedig.

Roedd yr arddangosiadau yn cynnwys trafodaethau ynglŷn â’u defnydd ymarferol, iechyd a diogelwch gyda hyfforddiant ar gael hefyd gan Chris Hughes o MWMAC.

Mae rheoli coetir yn medru bod yn ffordd o wella busnes fferm drwy ychwanegu ffrwd incwm arall, ond mae’n rhaid pwysleisio pwysigrwydd creu cynllun busnes cyn dechrau gyda fferm coetir.  Mae’n beth doeth i benderfynnu a fyddwch chi’n medru cyflawni’r gwaith eich hun ac ar gael i wneud hynny neu, a fyddwch chi’n llogi contractwyr.  Mae hefyd yn syniad da i chi edrych ar logi peiriannau o gymharu â phrynu peiriannau yn eich cynllun busnes.  Mae cyllid ar gael trwy Lywodraeth Cymru.  Mae templed Cynllun Rheoli Coetir ar gael gan wasanaeth cynghori’r Comisiwn Coedwigaeth sy’n rhoi arweiniad ar ymyrraeth â’r coetir am y 10 mlynedd nesaf a cheir cyngor ar greu cynllun busnes drwy’r gwasanaeth hwn hefyd.

Bu Iwan Parry yn trafod sut mae busnesau yn gorfod delio gyda choed sydd wedi cael eu heffeithio gan glefydau, sy’n broblem fawr i goetiroedd llarwydd ar hyn o bryd, ac mae gwefan TREE ar gael er mwyn rhybuddio am unrhyw glefydau coed. 

Cafodd pwysigrwydd mawr marchnata coed ac ychwanegu gwerth eu trafod a’u dangos trwy brosesu deunydd ffensio. Cafodd cyflenwad coed, marchnadoedd a llwybrau gwerthu gwahanol eu trafod hefyd.

 

Prif neges

Gall fferm coetir fod yn gyfle am incwm hyfyw, ond sicrhewch eich bod yn gwrando ar y cyngor mae gwasanaeth cynghori’r Comisiwn Coedwigaeth ac arbenigwyr fel Tilehill yn ei gynnig i chi, a fyddai’n medru helpu gyda’ch cynlluniau busnes a rheoli.   Mae’n rhaid bod y gallu gennych chi i fedru gwneud y gwaith eich hun neu logi contractwyr gan fod coetir, fel tir ffermio, angen ei reoli.

Diolch i’n siaradwyr gwadd - Iwan Parry, Tilehill Forestry, James Hepburn, CNC, Geraint Jones, Cyswllt Ffermio, a Richard Gough o fferm Cilwrgi.