Fferm Pant - Hau glaswellt o dan gnwd indrawn

        

 

Cafodd yr hadau glaswellt eu hau ar 30 Mehefin i gnwd indrawn a oedd oddeutu 0.5 metr o daldra. Er bod yr indrawn yn dalach na’r dril, yr unig ddifrod a welwyd i’r planhigion oedd ble’r oedd y tractor yn troi. Roedd y glaswellt a heuwyd yn gymysgedd o Rygwellt Eidalaidd a Rhygwellt Parhaol.

 

                      

 

                      

 

Cafodd eginiad a sefydliad yr hadau glaswellt ei effeithio gan y tywydd sych yn ystod Gorffennaf ac Awst, ond bydd gwaith monitro yn parhau i asesu cynnydd ar ôl cynaeafu’r indrawn.