Gelli Goll Diweddariad ar y prosiect - Ionawr 2025

Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn?

  • Cafodd y cnwd ei gynaeafu ar 30 Gorffennaf 2024.

  • Gellir gweld dadansoddiad o’r cnwd yn nhabl 1.

Tabl 1.  Dadansoddiad o silwair cnwd cyfan

 

Canlyniadau isgoch agos (NIR)

% Deunydd sych (DM)

25.4

Gwerth D 

60.7

Egni Metaboladwy (ME) Mj/Kg Deunydd Sych (DM)

9.7

% Protein Crai

9.1

% Ffibr NDF 

46.1

% Starts 

17.2

Roedd y protein ychydig yn is nag y byddem wedi’i obeithio, sef 9.1% CP. 

  • Mae 55 o wartheg yn cael eu bwydo ar gymysgedd o silwair glaswellt a Combicrop sy’n cyfateb â 18kg/pen o laswellt a Combicrop (grawn y gwanwyn a phys y gwanwyn y gellir eu combeinio) a 3.5kg o haidd wedi’i rolio wedi’i rannu’n ddau gyfnod borthiant.

Camau nesaf - 

  • Trwy weithio gyda Hefin Richards, Rumenation, trafodwyd y byddai modd cynyddu’r protein presennol yn y diet. Mae opsiynau er mwyn cyflawni hyn yn cynnwys:

    • defnyddio hylif llawn protein yn seiliedig ar driagl y gellid ei dywallt dros y porthiant yn y peiriant dyrannu porthiant a gwellt neu ar ôl bwydo 

    • defnyddio ychydig o flawd rêp a byddai modd bwydo hwn gan ddefnyddio’r peiriant dyrannu porthiant a gwellt gyda’r cnwd cyfan a’r silwair.

    • cynyddu protein silwair glaswellt drwy edrych ar gynnwys meillion y gwndwn, dyddiad torri a faint o brotein sy’n cael ei gadw yn ystod y broses eplesu.

  • Bydd enillion pwysau byw dyddiol  (DLWG) y gwartheg yn cael ei fonitro dros fisoedd y gaeaf.