Graianfryn Diweddariad ar y prosiect – Rhagfyr 2024

Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn?

  • Cynnydd gyda’r System Dan Do
    • Mae’r ail swp o loi ar hyn o bryd yn mynd drwy’r system dan do newydd, sydd wedi’i llunio i wella lles anifeiliaid a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau.
    • Cadarnhaodd adolygiad milfeddygol o’r system newydd nad oedd unrhyw broblemau na newidiadau angenrheidiol, gan amlygu effeithiolrwydd y system bresennol.
    • Mae’r gyfradd marwolaethau ar fferm Graianfryn wedi aros ar sero yn y system dan do newydd hyd yn hyn, gan ddangos llwyddiant y system ar gyfer cefnogi iechyd lloi.
  • Monitro teganau cyfoethogi lloi
    • Parhau i fonitro dulliau cyfoethogi lloi, gan gymharu defnyddio bwi/pêl yn hongian ar raff gydag offer Bitestar ar gadwyn.
    • Y nod yw canfod pa ddull sy’n annog yr ymddygiad mwyaf positif a’r llesiant gorau yn gyffredinol.
  • Addasiadau Amgylcheddol
    • Mae’r bynceri ar gefn y llociau, a ddefnyddiwyd yn wreiddiol ar gyfer gwres, wedi cael eu tynnu oddi yno gan fod lloi yn mynd yn rhy boeth yn yr ardaloedd hyn.
    • Mae’r addasiad hwn yn sicrhau tymheredd mwy sefydlog a chyfforddus yn y llociau i sicrhau’r amodau gorau ar gyfer twf ac iechyd y lloi.

Camau Nesaf

  • Parhau i fonitro iechyd ac ymddygiad lloi, gydag adolygiadau rheolaidd gyda’r milfeddyg.
  • Asesu effeithiolrwydd teganau cyfoethogi lloi ac addasu lle bo’r angen.
  • Sicrhau bod amodau amgylcheddol yn dal i fod yn gyfforddus i’r lloi, yn enwedig o ran rheoli tymheredd.