Gwella effeithlonrwydd ynni ar unedau dofednod dwys
Jodie Roberts, Swyddog Technegol Moch a Dofednod
Canfyddiadau cychwynnol y prosiect
Archwiliad ynni
Cafodd archwiliad ynni ei gynnal ar y fferm gan Chris Brookes o Westflight Ltd. Roedd yr archwiliad yn defnyddio coil Rogowski wedi cael eu lapio am bennau’r L1, L2 ac L3 gan gyflenwi’r prif fwrdd dosbarthu sydd wedi cael ei gysylltu i’r cofnodydd data. Mae Ffigwr 1 yn dangos y cofnodydd data yn cael ei ddefnyddio.
Cafodd y defnydd o ynni ei gofnodi dros 6 diwrnod. Mae’r graff isod yn dangos y galw am ynni dros gyfnod o 24 awr. Mae’r graff yn dangos yr ynni sydd ei angen ar ddiwrnod gwaith arferol, a phryd mae’r galw am ynni ar ei uchaf. Er enghraifft, pan mae’r peiriant bwydo yn cael ei ddefnyddio a phacio’r wyau yn cychwyn, mae’r pŵer yn cynyddu fel sy’n cael ei ddangos ar y graff. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn deall faint o ynni sydd ei angen er mwyn cwblhau’r tasgau dyddiol.
Ar ôl ymchwilio i ddosbarthiad ynni, sylweddolwyd fod L1 yn cyflenwi 37.1% o’r llwyth, L2 yn cyflenwi 34.2% o’r llwyth a L3 yn cyflenwi 28.8% o’r llwyth. Mae rheoli llwyth ynni yn medru dylanwadu ar gyflenwad pŵer ar foltedd cyson ac felly mae’n bwysig i gadw cydbwysedd y galw am ynni yn gyfartal rhwng y llwythi pan fo’n bosib.
Roedd yr adroddiad yn dangos fod costau ynni ar gyfer yr uned yn £0.278 ceiniog yr aderyn dros gyfnod o 12 mis.
Argymhellion
- Roedd proffil o 00 yn dangos fod y mesuryddion yn cael eu darllen bob hanner awr sydd yn galluogi defnyddio tariff aml gyfradd. Gallai trafod tariff ynni aml gyfraddau arwain at arbed ar gostau ynni.
- Bydd defnyddio trydan mewn modd deallus yn sicrhau lleihau gwastraff. Mae hyn yn bosib trwy ddiffodd golau a pheiriannau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, ac yn fwy na hynny, gallwch ystyried lleihau amser rhedeg y modur a’r belt bwydo yn yr uned.
- Ystyriwch hefyd newid y golau fflwrolau arferol i olau LED a fydd yn lleihau defnydd ynni.
- Mae ffaniau awyru yn gallu defnyddio llawer o drydan yn ystod misoedd yr haf. Felly, mae sicrhau bod y thermostat ar y gosodiadau cywir ac yn gweithio yn lleihau’r risg o gostau uwch.