Gwneud y gorau o dwf ŵyn drwy leihau straen wrth ddiddyfnu ac ychwanegu’r mwynau cywir
Nod y prosiect hwn yw archwilio her gyffredin o fewn diadelloedd, sef y gostyngiad mewn perfformiad a welir ymysg ŵyn ar ôl diddyfnu. Ein nod yw pennu a fyddai cyfuniad strategol o ychwanegu mwynau, wedi’i lywio gan archwiliad elfennau hybrin cynhwysfawr ar y fferm, ynghyd â phrotocolau diddyfnu gyda llai o straen yn gallu gwella enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) yn sylweddol, a lliniaru’r gostyngiad hwn mewn perfformiad ar ôl diddyfnu ymysg ŵyn mynydd Cymreig gwryw.
Mae’r cyfnod pontio o laeth i borthiant, ynghyd â gwahanu oddi wrth y mamogiaid, yn gyfnod sy’n peri straen i’r ŵyn, sy’n aml yn arwain at fwyta llai o borthiant, ac o ganlyniad, arafu twf. Gall diffygion maeth, yn enwedig elfennau hybrin hanfodol, waethygu’r heriau hyn. Trwy fynd ati’n rhagweithiol i fynd i’r afael â diffyg cydbwysedd mwynau posibl a lleihau straen yn ymwneud â diddyfnu, byddwn yn gwerthuso a oes modd i ni gefnogi twf ŵyn ac iechyd cadarn yn ystod y cam bregus hwn.
Bydd ŵyn mynydd Cymreig gwryw yn cael eu dyrannu ar hap i dri grŵp, gan sicrhau dosbarthiad cytbwys o bwysau cychwynnol. Bydd yr holl ŵyn yn cyflawni proses ddiddyfnu safonol, straen isel, sy’n cynnwys triniaeth llyngyr cyn diddyfnu (os oes angen), ychwanegu mwynau’n gynnar, a byddant yn cael eu gwahanu’n raddol oddi wrth y mamogiaid drwy eu symud i’r borfa ôl-ddiddyfnu cyn y dyddiad diddyfnu.
Bydd pob grŵp yn derbyn gwahanol strategaeth ychwanegu mwynau er mwyn cymharu effeithiolrwydd. Bydd grŵp rheoli’n derbyn drensh safonol y fferm sy’n isel mewn copr; bydd ail grŵp yn derbyn drensh gyda lefelau copr uwch, a bydd grŵp arbrofol yn derbyn drensh ‘rysáit cartref’ wedi’i deilwra. Bydd yr ŵyn yn cael eu pwyso’n rheolaidd i fonitro enillion pwysau byw dyddiol, a bydd samplau gwaed yn cael eu casglu i asesu lefelau mwynau systemig.
Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
- Defnyddio adnoddau’n effeithiol
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr