Hafod y Llyn Diweddariad prosiect – Mehefin 2024

  • Casglwyd data'r gwanwyn ar gyfer Soilmentor, a chynhaliwyd gwaith codi glaswelltir a hollti gyda rholer troellog i unioni problemau cywasgu.
  • Symudwyd da byw i'r caeau i ddechrau'r system bori ohiriedig.

Camau Nesaf?

  • Parhau i fonitro twf glaswellt, nodweddion y pridd, poblogaethau chwilod y dom, ac effaith y system ar ddwysedd ffromlys chwarennog drwy gydol y tymor pori.
  • Dadansoddi'r data a gasglwyd i werthuso effeithiolrwydd y system bori ohiriedig o ran gwella cynhyrchiant ac iechyd y pridd.
  • Rhannu canfyddiadau'r prosiect gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo’r opsiwn i fabwysiadu arferion pori cynaliadwy.