Integreiddio is-gnydau: Asesu manteision yn systemau tir âr Cymru
Bydd y prosiect yn tyfu ac yn monitro is-gnwd aml-rywogaeth rhwng rêp had olew y gaeaf a gwenith y gaeaf i ganfod ei fanteision amgylcheddol ac ariannol i'r cylchdro. Bydd caeau'r prosiect yn cael eu rhannu'n eu hanner, gyda llain rheoli pridd moel a llain is-gnwd. Bydd hyn yn cael ei ailadrodd ar draws pedwar cae yn Ne-ddwyrain Cymru.
Tair rhywogaeth y cymysgedd ar gyfer yr is-gnwd fydd Phacelia, Gwenith yr Hydd a Llinad.
Bydd y prosiect hefyd yn gweithredu technoleg Paul-Tech i ddarparu monitro pridd amser real, gwneud penderfyniadau sydd wedi'u hysgogi gan ddata a chanolbwyntio ar effeithlonrwydd maetholion.
Amcanion:
- Meintioli manteision amgylcheddol is-gnwd aml-rywogaeth, gan gynnwys gwell iechyd y pridd, llai o drwytholchi maetholion, a bioamrywiaeth well.
- Gwerthuso manteision ariannol integreiddio is-gnydau, gan ystyried costau mewnbwn llai, cynnydd cynnyrch posibl, a gwell effeithlonrwydd maetholion.
- Asesu effeithiolrwydd monitro pridd amser real a gwneud penderfyniadau sydd wedi’u hysgogi gan ddata wrth optimeiddio’r gwaith o reoli is-gnydau a defnyddio maetholion.
- Cymharu perfformiad is-gnwd aml-rywogaeth gyda llain rheoli â phridd moel ar draws pedwar safle maes wedi'u hailadrodd.
Bydd y prosiect hefyd yn cyflawni'r canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy canlynol:
- Aer glân
- Dŵr glân
- Gwneud y mwyaf o storio carbon
- Lleihau risg llifogydd a sychder
- Tirweddau naturiol gwarchodedig
- Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Ecosystemau cydnerth
- Defnyddio adnoddau’n effeithiol