Pam y byddai Lea yn fentor effeithiol
- Wedi'i magu ar dyddyn bach yn Sir Gaerfyrddin, mae Lea bellach yn dyddynnwr ei hun, yn rheoli defaid, moch ac ieir. Yn 2021 arallgyfeiriodd, gan sefydlu menter glampio amaeth-dwristiaeth lwyddiannus. Ers hynny, mae hi wedi defnyddio ei gwybodaeth a'i sgiliau i helpu ffermwyr a thirfeddianwyr i ddatblygu eu safleoedd glampio a gwersylla eu hunain ledled Cymru.
- Sefydlodd ei chwmni hyfforddiant dros 20 mlynedd yn ôl ac fel darparwr amlsector profiadol, mae hi bellach yn arbenigo mewn cynllunio busnes, rheolaeth ariannol a marchnata yn ogystal â hyfforddiant cydymffurfio.
- Wedi'i chymeradwyo gan Cyswllt Ffermio a llawer o sefydliadau achrededig eraill, mae ganddi hanes profedig o gefnogi ac ysbrydoli ffermwyr, tirfeddianwyr a phobl fusnes i ddatblygu'r sgiliau a'r syniadau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial ac ychwanegu gwerth trwy ddatblygu, arallgyfeirio, marchnata strategol neu newid cyfeiriad eu busnes.
- Mae Lea hefyd yn gweithio gyda theuluoedd sydd eisiau camu'n ôl o ffermio bob dydd ac mae ganddi brofiad o gynllunio olyniaeth a ffermio cyfran. Mae ganddi rwydwaith sefydledig o gysylltiadau a rhwydweithiau y bydd hi'n hapus i'w rhannu gyda chi i'ch helpu chi a'ch busnes i symud ymlaen.
- Wedi'i hysgogi gan ei chenhadaeth i alluogi ei holl gleientiaid i 'ganolbwyntio, cyflawni, a throi breuddwydion yn weithredoedd', mae Lea yn cyfuno ei phrofiad personol o sefydlu a datblygu ei busnesau llwyddiannus ei hun ochr yn ochr â chefndir proffesiynol trawiadol.
- Yn gyfathrebwr medrus a chyfeillgar, mae Lea yn ymfalchïo yn ei gallu i nid yn unig nodi heriau busnes ond bydd hi'n eich helpu i ddod o hyd i atebion hefyd. Disgwyliwch gymorth ac arweiniad diduedd a chyfrinachol gydag adborth adeiladol a gonest.
- Mae ganddi brofiad helaeth o gyflwyno gweithdai unigol a gweithdai grŵp trwy opsiynau hyfforddiant wyneb yn wyneb neu gyfunol, i fusnesau sefydledig a busnesau newydd. Mae hi wedi gweithio gyda phrosiectau cynaliadwy a phroffidiol yn amrywio o werthu bocsys cig, twristiaeth a mentrau safleoedd glampio i gynhyrchu mêl, garddwriaeth, planhigfeydd coed Nadolig a mwy.
- Bydd Lea yn gwrando ar eich persbectif personol ar sefyllfa bresennol eich busnes a'ch nodau - does neb yn gwybod hynny'n well na chi! Yna bydd hi'n eich helpu i edrych ar opsiynau a dewisiadau eraill a allai eich annog i ehangu eich disgwyliadau a chynllunio eich camau nesaf.
Cymwysterau / cyflawniadau / profiad
- 1998 BA (Anrh) Astudiaethau Rheoli Busnes a Gwybodeg (Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan)
- 1999 Tystysgrif Addysgu Addysg Bellach Coleg Technoleg a Chelf Sir Gaerfyrddin
- 1996 HND mewn Dylunio, Cyfathrebu a'r Cyfryngau
- 2006 Sefydliad Siartredig Rheoli, Arwain a Marchnata (ILM) Lefel 5
- 2018 Dyfarniad mewn Cyflwyno Addysg a Hyfforddiant
- 2013 Dyfarniad mewn Cadwraeth Amgylcheddol yn Seiliedig ar Dir a Gwaith
- Mae cymwysterau ymarferol Lefel 3 yn cynnwys: Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel NPTC; Cymorth Cyntaf yn y Gweithle; Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle; Diogelu Plant ac Oedolion; Asesu Risg; Hylendid Bwyd a Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo; Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl; Diogelu.
Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes
“Cadwch bethau’n syml, yn wir ac yn berthnasol a dylid osgoi gor-gymhlethu eich negeseuon a’ch nodau.”
“Rhowch y gorau i freuddwydio a dechreuwch weithredu - llwyddiant yw’r hyn sy’n groes i fethiant.”
“Taith yw eich bywyd ac mae angen i chi fwynhau’r daith!”