Lesley Rossiter, Landsker Business Solutions Ltd

Mae Lesley wedi'i lleoli yn Sir Benfro, ond mae'n gallu teithio ledled Cymru i hwyluso cyfarfodydd olyniaeth. Mae gan Lesley ILM Lefel 7 mewn 'Arweinyddiaeth, Hyfforddi a Mentora', ac mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn hwyluso a hyfforddi grŵp. Mae Lesley wedi cynnal llawer o sesiynau hwyluso a chynllunio olyniaeth gydag amryw o sefydliadau o'r blaen. Mae Lesley yn ddysgwr Cymraeg, ac er nad yw'n gallu cyflwyno sesiynau yn Gymraeg, mae hi'n hyderus i sgwrsio yn Gymraeg.