Lower House Farm Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
- Bu oedi wrth gael mynediad at y ddaear oherwydd y Gwanwyn gwlyb. Roedd y cae wedi ei gywasgu’n drwm gan geffylau dros fisoedd y Gaeaf. Felly i baratoi'r tir ar gyfer plannu, daethpwyd â chontractwr i mewn i aredig a llyfnu'r cae. Daethpwyd o hyd i gontractwr hefyd i wneud y gwaith o ddrilio'r had yn uniongyrchol.
- Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r arbenigwr cnydau Chris Creed o ADAS, penderfynodd y ffermwr brynu hadau ychwanegol, gan ychwanegu rhagor o fathau argymelledig at y prosiect.
- Ar 3 Mai, heuwyd 600 o hadau gan y ffermwr i fodiwlau i gymharu sefydlu â drilio uniongyrchol a phlanhigion plwg.
- Plannwyd y planhigion plwg sgwash o Delfland Nurseries ar 22 Mai 2024. Gwnaed hyn â llaw. Ar yr un dyddiad, bu contractwr yn drilio hadau yn uniongyrchol er mwyn eu cymharu. Yn ffodus roedd y dyddiadau plannu yn cyd-daro ag ysbaid o dywydd cynnes, fodd bynnag roedd hyn yn golygu dyfrhau i gynorthwyo sefydliad.
- Mae dyfrhau'n cael ei wneud â llaw ar hyn o bryd gyda phibell ddŵr ond mae'r ffermwr yn edrych i mewn i system chwistrellu fel opsiwn mwy addas.
- Mae'r planhigion sgwash wedi'u sefydlu'n llwyddiannus. Ond oherwydd y tywydd gwlyb a chynnes (Mehefin 2024), mae chwynnu wedi dod yn her yn y maes. Mae'r ffermwr ar hyn o bryd yn hofio â llaw sy'n cymryd llawer o amser ac yn llai effeithiol na dulliau eraill. Felly mae dulliau eraill o chwynnu yn cael eu hystyried.