Pam y byddai Lucy yn fentor effeithiol
Mae Lucy, a gafodd ei magu ar fferm yn Ne-orllewin Lloegr, wedi bod yn ffermio ochr yn ochr â’i gŵr ar ei fferm deuluol ger Aberteifi am y pum mlynedd diwethaf.
Mae'r pâr yn godro 300 o wartheg Holstein Friesian gan gynnwys 190 o loi ac yn magu tua 90 o heffrod bob blwyddyn.
Mae Lucy yn angerddol dros Iechyd a Lles Anifeiliaid, ac yn ogystal â’i rôl ran-amser fel cynghorydd llaeth, gartref mae’n gyfrifol am bob agwedd ar fagu lloi sy’n cynnwys maeth a hwsmonaeth yn ogystal â chadw cofnodion cyfrifiadurol, cofnodi llaeth a chynllunio brechu. Mae hi hefyd yn delio â holl geisiadau busnes ac ariannol y fferm a cheisiadau am grantiau.
Mae ei harbenigedd yn cynnwys cyfrifon rheoli; dadansoddi costau cynhyrchu a meincnodi; Cynlluniau grant datblygu gwledig; Cydymffurfiaeth Cynlluniau Rheoli Maetholion (NMP) a Pharthau Perygl Nitradau (NVZ).
Yn gyfathrebwr cyfeillgar a hyderus, mae gan Lucy brofiad sylweddol o’r sector llaeth ac yn arbennig, iechyd a lles anifeiliaid, lle mae’n gredwr mawr mewn ataliaeth ac arfer gorau cyn gwella!
Dewiswch Lucy fel eich mentor a disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan ei hagwedd gadarnhaol a rhagweithiol a allai eich helpu i ddod o hyd i atebion i heriau.
Y busnes fferm presennol
Ffermio 220ha (545 erw)
Tyfu 24ha o indrawn, 2ha o fetys porthiant, 8ha o haidd y gaeaf, 24ha o wenith gaeaf, gan dyfu glaswellt ar weddill y tir
Godro 300 o wartheg Holstein Friesian – lloia yn yr hydref/gaeaf. Mae newid o gyfnod lloia drwy’r flwyddyn i loia yn yr hydref tua chwe blynedd yn ôl wedi helpu’r teulu Allison i leihau’r oedran ar adeg y lloia cyntaf o 30 mis i 24 mis, sydd hefyd wedi helpu i leihau eu hôl troed carbon ochr yn ochr â chynyddu llaeth o borthiant.
Godro drwy barlwr “swingover” 16/32
Cynhyrchu 10,103 litr ar 4.34% o fraster menyn a 3.37% o brotein
Gwerthu tua 2.6miliwn litr o laeth yn flynyddol i First Milk/Tesco
- Wedi’u dewis fel cyflenwyr i grŵp caws Tesco (2017 hyd yma)
Qualifications/achievements/ experience
BSc Amaethyddiaeth gyda rheoli tir a fferm (Prifysgol Harper Adams)
Gwobrau Lantra Cymru 2024 – Yn ail yng nghategori Iechyd a Lles Anifeiliaid
Wedi'i chyflogi fel cynghorydd llaeth fferm gydag ymgynghoriaeth wledig o 2014 hyd yma
Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr Gwrtaith (FACTS)
Yn gyfrifol am fagu lloi ar y fferm deuluol am y pum mlynedd diwethaf
Wedi cwblhau nifer o gyrsiau Iechyd a Lles Anifeiliaid achrededig Cyswllt Ffermio
Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes
“Ewch i’r afael â’ch ôl troed carbon oherwydd gall ychydig o newidiadau greu manteision sylweddol a fydd yn gwneud eich busnes yn fwy cynaliadwy, effeithlon a gwydn.”
“Anelwch bob amser at y safonau uchaf o ran iechyd a lles anifeiliaid fel eich bod yn magu anifeiliaid hapus, iach sy’n cyfrannu at berfformiad a phroffidioldeb eich buches."
“Dylech drin bob sefyllfa gyda meddwl agored, edrychwch ar y darlun ehangach a pheidiwch â gwneud rhagdybiaethau nes eich bod wedi gwirio’r holl ffeithiau.”