Lucy Eyre
Y Trallwng, Powys
Mae Lucy Eyre yn denant fferm cenhedlaeth gyntaf, yn filfeddyg ac yn fam ifanc. Mae wedi llunio busnes fferm gwydn sy’n cael ei lywio gan egwyddorion o’r cychwyn cyntaf. Wrth symud yn 2020 i fferm iseldir 125 erw yng Nghymru oedd yn cael ei rheoli’n ddwys, fe ddilynodd egwyddorion adfywiol i roi bywyd newydd i briddoedd a llunio menter dda byw gymysg sy’n ffynnu. Heddiw mae’n rhedeg y fferm ei hun, gan reoli defaid pedigri, gwartheg bîff a moch gyda phwyslais cryf ar gynaliadwyedd, bioamrywiaeth a lles anifeiliaid.
Gyda dros ddegawd o brofiad fel milfeddyg, mae Lucy yn dod â chyfuniad unigryw o wybodaeth wyddonol a sgiliau ymarferol i’w ffermio. Mae hi hefyd yn ail-lansio busnes cig yn uniongyrchol i’r cwsmer, yn awyddus i ddarparu bwyd o safon uchel, wedi ei gynhyrchu’n foesegol i gwsmeriaid adwerthu a phreifat. Ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol mae’n cynnig golwg ddidwyll ar fywyd ar fferm adfywiol, gan ysbrydoli eraill a hyrwyddo tryloywder wrth gynhyrchu bwyd.
Gobaith Lucy yw y bydd yr Academi Amaeth yn ei helpu i gynyddu ei gwybodaeth, rhwydweithiau a’i hyder i gynyddu ei busnes a sicrhau ei ddyfodol hirdymor.
“Rwy’n awyddus iawn i ddatblygu ffyrdd blaengar o farchnata fy nghynnyrch, cryfhau proffidioldeb y fferm, a chyfrannu at system fwyd wydn, sy’n gyfeillgar i natur.
“Bydd cysylltu ag unigolion o’r un meddylfryd ac arbenigwyr y diwydiant trwy’r Academi Amaeth yn rhoi cymhelliant, cymorth a chyfleoedd i gydweithio.”