Manon Hawys Williams, Agri Advisor Legal LLP/Rural Advisor Ltd

Mae Manon wedi'i lleoli ar y ffiniau rhwng Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ond bydd yn teithio ar draws Cymru gyfan i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth. Mae Manon yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gyfreithiwr cymwysedig, gydag angerdd a diddordeb arbennig am gynllunio olyniaeth ar gyfer busnesau amaethyddol. Cwblhaodd Manon hyfforddiant hwyluso olyniaeth gyda Siân Bushell yn 2021 ac mae'n Gydymaith Siân Bushell, ac felly mae'n alluog iawn i arwain y trafodaethau sydd eu hangen wrth ystyried olyniaeth. Mae Manon yn brofiadol iawn o ran darparu cyngor cynllunio olyniaeth i fusnesau ffermio mawr a bach, gyda phwyslais ar yr agweddau ymarferol yn ogystal â'r agweddau cyfreithiol. Ar ôl cael ei magu ar fferm ddefaid a bellach yn byw ar fferm laeth gyda'i theulu ei hun, mae hi'n deall natur busnesau teuluol a'r materion y gall olyniaeth busnesau o'r fath eu cyflwyno. Mae hi'n gwerthfawrogi'r pryderon dan sylw, ac yn gallu cydymdeimlo â sefyllfa'r unigolion dan sylw gan eu helpu i oresgyn anawsterau.