Mark Lord, Berrys/AgriPlan

Mae Mark yn byw yng Nghroesoswallt ac mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad o weithio ledled Cymru ac yn flaenorol bu'n byw ar Ynys Môn. Mae'n fwy na pharod i deithio i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth ac mae wedi ymgymryd â'r rôl hon ar sawl achlysur. Cyn hynny bu Mark yn gweithio fel Rheolwr Amaethyddol Rhanbarthol i Lloyds Bank gyda Gogledd a Chanolbarth Cymru yn rhan o'i ardal. Roedd cynllunio a mynd i'r afael ag olyniaeth yn aml yn elfen allweddol o drafod yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn y banc wrth ystyried benthyciadau i fusnesau dros gyfnod hir.