Moor Farm Diweddariad ar y prosiect – Terfynol
Prif ganlyniadau:
Roedd canfod cyfrif celloedd somatig gwartheg gan ddefnyddio GenoCells o’i gymharu â chofnodion llaeth traddodiadol yn dangos cydberthynas o 94%
- Gwelwyd cydberthynas arwyddocaol o 98.6% rhwng cyfrifiadau GenoCells a chynnyrch gwirioneddol a defnyddio cynnyrch cyfartalog gwartheg mewn llaeth, sy’n gadarnhaol iawn o safbwynt defnyddio’r dechnoleg hon mewn buchesi sy’n lloia mewn bloc
- Gostyngodd nifer yr achosion o fastitis o 12 i 3 buwch y flwyddyn. Yn seiliedig ar gostau AHDB Llaeth ar gyfer mastitis, sef £300 y fuwch, roedd hyn yn arbediad o £2,700 ar gyfer y fferm.
Trwy ddefnyddio GenoCells, gwelwyd hefyd leihad o 50% yn y gwrthfiotigau a ddefnyddiwyd, gan arwain at leihau faint o diwbiau gwrthfiotig a ddefnyddiwyd, ac arbed £247 i’r fferm.
Arbediad o gyfanswm o £2,947.
- Cyfanswm costau GenoCells a phrofion genomig ar gyfer y prosiect oedd £2579.10
- Felly, am bob £1 a wariwyd, gwelwyd elw ar fuddsoddiad o £1.14. Fodd bynnag, nid yw hynny’n cynnwys arbedion llafur na thrydan na’r buddion ychwanegol y mae profion genomig yn eu cynnig i’r fuches. Mae AHDB Llaeth yn adrodd bod hyn oddeutu £19,300 ar gyfer buches nodweddiadol o 175 o wartheg.
Cefndir:
Yn gysylltiedig â phrofion genomig, mae GenoCells yn brawf llaeth blaengar sy’n darparu Cyfrif Celloedd Somatig (SCC) buchod unigol gan ddefnyddio un sampl o’r tanc llaeth. Mae GenoCells yn defnyddio proffil genomig pob buwch i ddynodi eu cyfraniad o gelloedd somatig, a thrwy hynny’n gwaredu’r angen i samplu llaeth pob buwch sy’n gallu cymryd llawer o amser.
Gan fod bron pob buwch yn y fuches ar Moor Farm yn cael prawf genomig, bydd y prosiect hwn yn cymharu cywirdeb profi samplau tanc llaeth i ddynodi cyfrif celloedd somatig buchod unigol trwy gyfateb proffil genomig y fuwch unigol yn y fuches o’i gymharu â dulliau cofnodi llaeth traddodiadol.
Y nod yw y bydd y prawf yn galluogi’r ffermwyr i ganfod gwartheg sydd wedi’u heffeithio yn dilyn canlyniadau cyfrif celloedd somatig uchel yn ystod profion cyson cyn talu a thrwy hynny gynnal gwerth am arian. Hefyd, gan ei fod yn ddull llai dwys o ran llafur o gynnal profion, bydd hynny’n fuddiol iawn yn ystod y cyfnod pontio pan fydd y fuches ar ei mwyaf agored i fastitis a chyfrif celloedd somatig uchel, gyda’r posibilrwydd o wneud arbedion pellach o ran faint o wrthfiotigau a ddefnyddir.
Diben y gwaith:
- Nodi’r cywirdeb/cydberthynas rhwng GenoCells a chofnodion llaeth traddodiadol ar gyfer canfod Cyfrif Celloedd Somatig gwartheg unigol
- Datblygu gwybodaeth ar ddefnyddio GenoCells fel adnodd i ffermwyr llaeth i leihau nifer yr achosion o fastitis a’r defnydd o wrthfiotigau yn y fuches.
- Nodi ymarferoldeb GenoCells a rhwyddineb defnyddio ar gyfer ffermwyr
Yr hyn a wnaed:
Dilynodd Rhys y camau canlynol wrth gasglu’r sampl GenoCells:
- Derbyniodd y ffermwr y pecyn samplu GenoCells
- Ar ôl godro a throi’r tanc, cymerodd Rhys sampl llaeth o frig y tanc a’i anfon at labordy NMR ar 24 Hydref
- Cafodd y canlyniadau eu hanfon yn ôl o’r labordy yr un mor gyflym â chanlyniadau profion traddodiadol, gyda rhai’n cyrraedd y diwrnod canlynol dros e-bost
- Defnyddiwyd meddalwedd Dairy Data Warehouse (DDW) ynghyd â data’r fuches gyfan gan ddefnyddio un dangosfwrdd
Cymerwyd sampl gyfochrog o laeth tanc ynghyd â’r dull traddodiadol o gofnodi llaeth y fuches, i ganfod canlyniadau cyfrif celloedd somatig gwartheg unigol. Mae ffigur 1 yn dangos cydberthynas dda rhwng y sampl llaeth o’r tanc gan ddefnyddio technoleg GenoCell gyda chofnodion sampl gwartheg unigol.
Canlyniadau:
Ffigur 1. Cyfernod cydberthynas GenoCells yn erbyn cofnodi llaeth
- Yn dilyn y canlyniadau GenoCells, cynhaliwyd Prawf Llaeth California (CMT) ar bob chwarter o’r gwartheg gyda chyfrif celloedd somatig uchel i ganfod unrhyw broblemau mastitis mewn chwarteri unigol. Llwyddodd hyn i leihau’r defnydd o wrthfiotigau ar y fferm mewn achosion lle’r oedd un chwarter yn dangos cyfrif celloedd somatig uwch yn unig.
- Cymerwyd samplau hefyd cyn sychu’r fuches a rhannwyd y data hwn gyda milfeddyg presennol y fferm, Guy Tomlinson, a gwnaed penderfyniadau’n seiliedig ar y data ynglŷn â thriniaeth gwartheg sych unigol. Derbyniodd pob buwch a oedd wedi’i phrofi gyda chyfrif celloedd somatig o 200+ driniaeth wrthfiotig a seilwr, a defnyddiwyd seliwr yn unig ar bob buwch gyda chyfrif celloedd somatig is na 200.
- Casglwyd samplau GenoCells pellach ar ôl lloia a’u hanfon at y labordy (Tabl 1).
Tabl 1. Gwartheg GenoCells i’w hadolygu ym mis Mawrth 2024
- Derbyniodd pum buwch yn eu trydydd llaethiad neu iau gyda chyfrif celloedd somatig o 250+ ar ôl lloia folws mwynau AHV i wella eu systemau imiwnedd.
- Cododd ambell i broblem annisgwyl ar Moor Farm fel rhan o’r prosiect. Roedd angen diweddaru meddalwedd y parlwr, a gan fod y fferm yn lloia mewn bloc yn y gwanwyn, roedd cyfran o’r llaeth yn cael ei fwydo i’r lloi yn ystod y gwanwyn tan ddiwedd mis Mehefin, felly nid oedd modd defnyddio GenoCells gan nad oedd modd casglu cynnyrch a % cyfraniad yn gywir o’r tanc llaeth.
- Cymerwyd sampl GenoCells ar ganol y llaethiad gan greu cyfartaledd o’r litrau ar draws y fuches i ganfod cywirdeb o’i gymharu â chofnodi llaeth traddodiadol (Ffigur 2).
Ffigur 2. Cynnyrch GenoCells o’i gymharu â chyfartaledd
- Mae’r prosiect hwn wedi galluogi’r milfeddyg a’r ffermwr i wneud penderfyniadau cynt o ran mastitis/rheoli cyfrif celloedd somatig y gwartheg. Mae’r cofnodion llaeth misol traddodiadol wedi parhau ar y fferm drwy gydol y prosiect.=
Sut i roi’r canlyniadau ar waith ar eich fferm:
- Cynhaliwch brofion genetig ar eich buches gyfan a phob heffer gyfnewid sy’n ymuno â’r fuches bob blwyddyn i gael gwerthusiad genomig ar gyfer pob anifail.
- Archebwch a derbyniwch becyn samplu Genocells
- Ar ôl godro a throi’r tanc llaeth, casglwch sampl o frig y tanc a’i anfon i labordy NMR
- Dylai’r ffermwr dderbyn y canlyniadau o’r labordy yr un mor gyflym â chanlyniadau cofnodi llaeth traddodiadol, neu hyd yn oed y diwrnod canlynol dros e-bost
Ffigur 3. Y ffermwr Rhys Davies yn casglu’r sampl Genocells
Ffigur 4. Pecyn samplu Genocells