20 Rhagfyr 2018

 

1. emily jones owain rowlands seimon thomas and hannah thomas 1 0
Gall data a gasglwyd yn ystod cynllun treialu dwy flynedd yn ymwneud â nifer o ffermydd llaeth yn Ne Orllewin Cymru helpu cynhyrchwyr ar systemau glaswellt i harneisio mantais yn y farchnad sy’n deillio o lefelau uwch o asid brasterog buddiol mewn rhai mathau o laeth.

Mae Seimon Thomas a Tom Harris yn ddau o’r 20 o ffermwyr y mae eu systemau porthi yn cael eu dadansoddi yn ystod prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP Wales) sy’n archwilio proffil asid brasterog llawn y llaeth a gynhyrchir.

Gallai’r canlyniadau gynnig cyfle iddyn nhw a ffermwyr llaeth eraill i ddatblygu dulliau ar sail porthiant i gynhyrchu llaeth gyda lefelau uwch o asidau brasterog buddiol fel omega-3.

“Os gallwn gadarnhau ble mae’r manteision omega-3 yn bodoli, bydd yn rhoi cyfle i ymgorffori’r neges hwn yn y modd y byddwn yn brandio a marchnata ein llaeth,” dywedodd Mr Thomas, sy’n cadw buches o 900 o fuchod Byrgorn yn Drysgolgoch, ger Llanfyrnach, gyda’i wraig Eleanor, a’u plant Sion a Hanna.

Rhoddir samplau o laeth a phorthiant o’r 20 fferm i IBERS, Aberystwyth yn fisol, ynghyd â holiadur am arferion porthi ar adeg y samplo.

Dywed Hanna Thomas, sy’n casglu’r samplau hyn yn Drysgolgoch, y dylai cynhyrchwyr llaeth fanteisio ar bob cyfle i ychwanegu gwerth a bod EIP Wales wedi cynnig llwyfan i hynny.

Mae gan y ffermwyr sy’n rhan o’r prosiect systemau amrywiol yn ymestyn o fuchesi confensiynol sydd dan do yn y gaeaf ac yn pori yn yr haf a buches sydd dan do trwy’r flwyddyn i fuchesi organig a systemau sy’n lloea mewn bloc yn y gwanwyn. Mae rhai buchesi sydd dan do yn barhaus hefyd yn defnyddio system heb bori, lle mae glaswellt ffres yn cael ei gynaeafu i’r buchod yn ddyddiol.

Mae’r grŵp yn cyflenwi eu llaeth i wahanol brynwyr a phroseswyr llaeth, gan gynnwys llaeth hylifol, llaeth hylifol premiwm organig, cynhyrchwyr caws a chynhyrchwyr cynhwysion bwyd uchel eu gwerth.

Gallai’r gwerthwyr llaeth hyn o bosibl fanteisio ar ganlyniadau’r prosiect trwy farchnata llaeth ar sail ei gynnwys omega-3 uwch, er enghraifft.

Mae’r teulu Thomas yn cadw dwy fuches ar systemau gwahanol – 350 o fuchod sy’n lloea yn yr hydref sydd dan do o fis Medi i fis Mawrth a buches o faint tebyg sy’n lloea yn y gwanwyn sy’n pori o Chwefror i ddechrau Rhagfyr; mae hyn yn cynnig cyfle unigryw i gymharu a gwrthgyferbynu’r cynnwys omega-3 yn eu llaeth.

Yn Ffosyficer, ger Abercych, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar laeth o fuches Tom a Francisca Harris o Friesians Holstein sy’n lloea yn yr hydref.

2. tom harris 1 0
Mae gan y cwpl brofiad o ychwanegu gwerth at laeth - eu teulu sy’n cynhyrchu’r llaeth Daioni ffres ac organig gyda blasau gwahanol.

Roedd y cwpl wedi ystyried ariannu eu hastudiaeth eu hunain o omega-3 mewn llaeth yn y gorffennol ond, fel busnes unigol, byddai wedi bod yn gostus gyda’r gwaith ymchwil gwyddonol mawr angenrheidiol i roi tystiolaeth y gellid ei phrofi.

Roeddent felly yn croesawu dull cydweithredol EIP Wales.

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r treialon ac yn edrych ymlaen at y canlyniadau fydd yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y ddwy flynedd,” dywedodd Mr Harris.

Mae prosiectau EIP yn anelu at gryfhau ymchwil ac arloesedd yn y sector amaethyddol yng Nghymru, gan gau’r bwlch rhwng ymchwil a gweithredu ar ffermydd.

Dywedodd y Swyddog EIP Owain Rowlands bod 19 o brosiectau wedi eu cymeradwyo ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys iechyd anifeiliaid, geneteg a chnydau gwahanol.

“Mae’r holl brosiectau hyn yn cael eu harwain gan ffermwyr a byddant yn galluogi ffermwyr i gymryd canlyniadau’r ymchwil a’u gweithredu ar eu ffermydd,” esboniodd.

Mae digonedd o gefnogaeth ar gael i ffermwyr a choedwigwyr sydd am wneud y mwyaf o’r cynllun.

Dywedodd Emily Jones, o Landsker Business Solutions Ltd, sy’n helpu i weinyddu’r prosiect asid brasterog llaeth, mai rôl y Brocer Arloesedd oedd arwain yr ymgeiswyr trwy’r broses ymgeisio ar y dechrau.

“Os bydd y cais yn llwyddiannus ein gwaith ni wedyn yw hwyluso’r prosiect ar hyd ei oes,” dywedodd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio