Nid yw’n rhy hwyr i wneud cais am le ar gyfer rhaglen datblygu personol blaengar Cyswllt Ffermio, yr Academi Amaeth.

Lansiwyd rhaglen 2017 ym Mae Caerdydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, a dywedodd y byddai’r addysg a’r datblygiad a gynigir gan yr Academi Amaeth yn talu ar ei ganfed o ran rhedeg busnes llwyddiannus a darparu arweiniad ar lefel uwch, strategol ar gyfer y diwydiant.  

I un teulu ffermio yng Nghanolbarth Cymru, mae'r Academi Amaeth, sy'n cynnig tair sesiwn hyfforddi ddwys dros gyfnod byr, wedi cael canlyniadau arbennig iawn. Mae Keri Davies yn ffermio mewn partneriaeth gyda’i wraig Julie yng Nghlwydcaenewydd, ger Aberhonddu. Mae gan y cwpwl ddaliad organig 330 erw sy'n cadw bîff a defaid gan werthu mwyafrif eu cynnyrch i Waitrose trwy'r Grŵp Marchnata Da Byw ac maent hefyd yn rhedeg busnes llety gwyliau pum seren sy'n ffynnu.

Roedd Keri yn ymgeisydd Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn 2012, pan lansiwyd y rhaglen yn wreiddiol.   Erbyn heddiw, mae ei ferch Naomi a’i fab Reuben hefyd yn rhan o’r 125 o gyn aelodau sydd wedi elwa.   Mae’r tri ohonynt yn llysgenhadon brwd i'r Academi Amaeth, gan ddweud bod y rhaglen unigryw o fentora, hyfforddiant a theithiau astudio, ynghyd â'r cyfleoedd rhwydweithio yn mynd i gael effaith hir dymor ar eu dyfodol, a hynny ar lefel bersonol yn ogystal â phroffesiynol.

 

agri

Mae Keri Davies yn frwdfrydig iawn ynglŷn â’i brofiad.

“Mae’r Academi Amaeth wedi rhoi mwy o hyder, hyfforddiant a sgiliau i mi nag y byddwn wedi ei freuddwydio. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngwahodd i gynrychioli fy niwydiant ar y lefelau uchaf. O ganlyniad i’r rhaglen, rwyf wedi cael fy ngwahodd i gynghori Gweinidogion a swyddogion y llywodraeth yng Nghaerdydd a Llundain, ac roeddwn yn cael boddhad mawr i wybod bod fy marn yn cael ei werthfawrogi, o safbwynt y ffermwr teuluol nodweddiadol.

“Mae’r modd y mae’r Academi Amaeth yn gweithio i feithrin gwaith tîm wedi cael manteision hir oes ar gyfer ein teulu ac rwy’n hynod falch bod fy mhlant wedi cymryd rhan.

 “Ers yr Academi Amaeth, mae sawl cyfle wedi dod i’m rhan i ac aelodau eraill y grŵp ar bob lefel, ac mae’n dweud cyfrolau bod pob un ohonom yn parhau i ddod ynghyd fel grŵp ddwy neu dair gwaith y flwyddyn. Yn wir, mae ein grŵp yn dod at ei gilydd ac yn aros yn ein llety gwyliau ar y fferm sy’n dal hyd at 60 o bobl.

“Mae pob agwedd o’n bywyd busnes yn cael ei rannu, nid ydym yn dal dim yn ôl ac rydym yn helpu ein gilydd ar bob cyfle – mae pob un ohonom eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’n gilydd ac i’r diwydiant, yn enwedig y genhedlaeth iau.” 

“Mae’r Academi Amaeth yn brofiad grymusol iawn, a byddem yn argymell unrhyw un sy’n gweithio yn ein diwydiant i wneud cais ar ei gyfer, gan gynnwys fy mhlant fy hun!”

Cafodd merch Keri, Naomi Davies, syrfëwr siartredig dan hyfforddiant yn y Bontfaen, sydd wedi graddio’n ddiweddar o Brifysgol Reading, ei dewis fel ymgeisydd ar gyfer Rhaglen yr Ifanc yn 2014. 

“Cafodd Rhaglen yr Ifanc effaith gadarnhaol iawn ar fy ngrŵp i, ac yn bersonol, gwelais fod fy CV wedi cael ei atgyfnerthu’n sylweddol, gan fod bron pob cyflogwr posib eisiau gwybod mwy amdano.

“Gorffennais fy mlwyddyn academaidd gyda sgiliau newydd, ffrindiau newydd, a theimlad o obaith a phwrpas ynglŷn â sut y gallwn symud ymlaen fel unigolyn yn gweithio o fewn diwydiant amaethyddol yng Nghymru.”   

Dim ond 16 mlwydd oed oedd mab Keri, Reuben Davies, sydd ar hyn o bryd yn astudio peirianneg amaethyddol yng Ngholeg Hartpury yng Nghaerloyw,  pan gafodd ei ddewis ar gyfer Rhaglen yr Ifanc  yr Academi Amaeth y llynedd.

"Mae’r Academi Amaeth wedi fy arwain ar drywydd o ddarganfod, dysgu a chyfeillgarwch, a does dim amheuaeth ei fod wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa i mi yn y dyfodol ym myd ffermio yng Nghymru.

"Mae’n anodd credu pa mor werthfawr y mae’r cyfeillgarwch a’r cysylltiadau yr wyf wedi eu meithrin wedi bod hyd yn hyn. Maent wedi arwain at gynigion ar gyfer lleoliadau gwaith ac felly erbyn hyn mae gen i CV ardderchog ac rwy’n ffyddiog y bydd yn arwain at gynigion am swyddi pan fydda i’n barod.

"Rydw i wedi cael fy ysbrydoli i wneud cymaint mwy diolch i’r mentoriaid a’m cyd-aelodau. Cyn hir, byddaf yn cychwyn ar brofiad gwaith yn Iwerddon, a drefnwyd drwy’r Academi, ac rwyf hefyd yn bwriadu chwilio am waith dros dro yn Seland Newydd ac yng Nghaergrawnt. Mae’r Aacademi Amaeth yn bendant wedi fy ysbrydoli i gyflawni mwy, i deithio ymhellach ac i ganfod dulliau newydd o weithio.”

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio

 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn
Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm