Mae ffermwyr o Gymru wedi teithio i'r Swistir er mwyn ceisio dysgu gwersi gan amaethwyr y wlad wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Nid yw'r Swistir yn aelod o'r UE ond mae ei ffermwyr yn masnachu gyda gwledydd yr undeb yn unol â rheolau EFTA - Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop.

Mae gan Y Swistir tua 130 o wahanol gytundebau sy'n caniatau iddi fasnachu gyda'r UE, cytundebau gafodd eu gosod yn eu lle dros nifer o flynyddoedd.

Ymhen 18 mis ni fydd ffermwyr Cymru yn byw mewn gwlad sy'n perthyn i'r UE, a bwriad y ffermwyr sy'n ymweld â'r Swistir am dridiau yw gweld a fyddai'n fuddiol pe bai cytundebau tebyg rhwng gwledydd y DU a'r UE ar ôl Brexit.

Yn ystod y daith bydd y ffermwyr yn cwrdd â Chymry sy'n gweithio ac wedi ymgartrefu yn Y Swistir, yn ymweld â ffermydd ac yn cael cyfle i gwrdd â chynrychiolydd o'r Swyddfa Amaeth Ffederal.

Yn draddodiadol, mae'r Swistir wedi rhoi cymorthdaliadau hael i'w ffermwyr - yn ôl ffigyrau'r OECD mae oddeutu 55% o incwm ffermwyr y Swistir yn deillio o gymhorthdal gan y wladwriaeth.

Mewn gwlad sy'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd mae'r ganran gyfatebol tua 20%.

Cymorthdaliadau hael

Mae cymorthdaliadau'r Swistir hefyd gyda'r mwyaf hael yn y byd - yn ôl rhai adroddiadau maen nhw'n gallu bod werth oddeutu £2,000 yr hectar.

Yn gyffredinol mae ffermydd y Swistir yn fach o'i gymharu â rhai ym Mhrydain - 23 hectar yw fferm yn y Swistir ar gyfartaledd, tua 48 hectar yng Nghymru a mwy eto yn Lloegr a'r Alban.

 

agri academi 2

Mae'r 14 o ffermwyr sydd ar y daith yn rhan o'r Academi Amaeth - cynllun sydd wedi ceisio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ac arloeswyr gwledig, a hynny ers pum mlynedd.

Dywedodd Geraint Hughes, arweinydd yr Academi Amaeth ac un o drefnwyr y daith: "Ar yr ymweliad yma â'r Swistir mae gennym ni griw o ffermwyr blaengar sy'n ceisio dysgu dulliau gwell o gadw fferm trwy rwydweithio gydag amaethwyr mewn rhannau eraill o Brydain ac ar gyfandir Ewrop.

"Mae aelodau'r academi yn ymweld â gwlad dramor bob blwyddyn ac eleni 'da ni wedi dewis y Swistir oherwydd cyd-destun Brexit.

"'Da ni am weld sut mae busnesau'n cael eu rhedeg yma a beth yw statws Y Swistir o fewn Ewrop - a sut mae hynny'n effeithio ar ffermwyr ar lawr gwlad.

"Mae'n debyg bod amaeth yn cael ei chefnogi'n hael iawn gan lywodraeth y Swistir ac o ganlyniad mae llawer o ffermydd yna yn dal i allu rhedeg fel ffermydd bach, teuluol."

Newid ar droed?

Ond mae'n ymddangos fod newid ar droed gyda ffigyrau o'r Swyddfa Ystadegau Ffederal yn dangos cwymp yn nifer y ffermydd llai yn Y Swistir, gydag amaethwyr ar raddfa fechan yn cwyno fod trefn cymhorthdaliadau newydd yn ffafrio ffermydd mwy.

Yn 2016 roedd cwymp yn nifer y ffermydd yn y Swistir o dan 30 hectar, gostyngiad yn nifer y ffermydd yn gyffredinol, tua 1,000 yn llai, a llai o swyddi hefyd ar gael yn y diwydiant amaeth.

Bydd y ffermwyr o Gymru yn sicr o ddysgu pethau newydd ar eu hymweliad â'r Swistir, ond bydd rhai profiadau eu cyd-amaethwyr yn swnio'n gyfarwydd.

 

*Ffynhonnell: Cymru Fyw


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter