Gall tyfu cnydau protein ar y fferm ddarparu opsiwn cost effeithiol a chynaliadwy yn hytrach na bwyd anifeiliaid a brynir i mewn. Mae Bysedd y Blaidd yn gnwd uchel mewn protein ac egni a allai leihau costau bwyd yn sylweddol a chynorthwyo ffermwyr Cymru i allu gwrthsefyll prisiau cyfnewidiol yn well.
Mae Lyndon Joseph wedi bod yn tyfu Bysedd y Blaidd ac yn eu defnyddio mewn dognau ar gyfer ei dda byw ar fferm Mount Pleasant, Stormy Down, Pîl, ers tua 14 mlynedd. Yn flaenorol, bu'n prynu protein yn seiliedig ar soia ar gyfer y dogn cymysg, ond pan gododd y pris i £1,500 un mis, nid oedd yn gost effeithiol bellach a phenderfynodd geisio tyfu ei brotein ei hun. Yn dilyn llwyddiant cnwd arbrofol pum erw o fysedd y blaidd, mae'r codlys blynyddol wedi cael ei gynnwys yn y cylchdro cnydau ers hynny.
“Mae bysedd y blaidd wedi dod yn rhan ddefnyddiol o'n dogn ac mae'n gweddu gyda'n nod o geisio tyfu ein bwydydd ein hunain ar y fferm a cheisio prynu cyn lleied â phosibl i mewn," meddai Mr Joseph. “Rydym wedi tyfu ein grawn ein hunain i fwydo ein da byw erioed, ac mae bysedd y blaidd yn ychwanegu ffynhonnell o brotein parod ac yn sefydlogi nitrogen, felly bydd y cnwd dilynol yn perfformio'n dda. Mae tyfu cnydau protein yn bendant yn rhywbeth i’w ystyried gyda natur gyfnewidiol y farchnad protein.”
Mae Mr Joseph yn pesgi 200 o wartheg y flwyddyn, wedi'u prynu fel gwartheg stôr yn chwe mis oed, ac mae'n defnyddio'r cnwd bysedd y blaidd yn y dognau pesgi gan eu bod yn uchel mewn protein - rhwng 31-45% yn nodweddiadol - gyda ME nodweddiadol o 14.7MJ/KgDM. Mae'r dognau'n cynnwys 10% bysedd y blaidd, wedi'u cymysgu’n bennaf gyda barlys ac ychydig o geirch a haidd gyda mwynau ychwanegol ar gyfer y gwartheg iau.
“Mae'r cnwd bysedd y blaidd yn flasus ac yn uchel iawn mewn protein. Rydym yn eu cymysgu gyda grawn a dyfir gartref er mwyn creu bwyd cytbwys ac mae’r gwartheg yn pesgi'n dda iawn arno," ychwanegodd.
Mae fferm Mount Pleasant yn cynnwys 300 erw o laswellt a 200 erw o gnydau âr, gydag oddeutu 15 erw o fysedd y blaidd Iris yn cael eu tyfu’n flynyddol. Mae'r cnwd bysedd y blaidd yn cael ei hau ar ddechrau i ganol mis Ebrill ac mae'n well ganddynt briddoedd ysgafnach. Mae’r hadau’n costio £55 yr erw, ac mae gwrtaith 20:10:10 yn cael ei wasgaru ar gyfradd o dri chanpwys/erw (152kg/erw) sy’n costio £35/erw, ac mae chwistrellu'n costio £60/erw. Defnyddir chwistrell cyn-ymddagnosiad , gyda thriniaeth arall i ddilyn yn hwyrach, ac yna caiff y cnwd ei sychu cyn ei gynaeafu. Caiff y cnwd ei gynaeafu ym mis Medi ac ar ôl ei gombeinio, mae'r bysedd y blaidd yn cael eu crimpio a'u storio mewn bagiau. Y cynnyrch cyfartalog fesul erw yw 1.25 tunnell.
“Rydym yn ceisio combeinio’r cnwd pan fo cyn syched a phosib cyn crimpio fel ei fod yn storio'n dda ac mae'n bwysig i osgoi rhew wrth hau. Mae'r cnwd yn agored iawn a gall fod yn agored iawn i chwyn yn ystod blwyddyn wlyb, felly mae’n bwysig iawn cadw llygad ar hynny,” meddai Mr Joseph.
“Gan fod bysedd y blaidd yn godlys ac yn sefydlogi nitrogen yn y pridd, un fantais a welsom yw bod y cnwd dilynol yn cynhyrchu tua chwarter tunnell yn fwy fesul erw, o ganlyniad i effaith tynnu nitrogen i'r ddaear."
Yn ogystal â defnyddio’r cnwd bysedd y blaidd ei hun, mae Mr Joseph hefyd yn cyflenwi ffermwyr lleol fel ffynhonnell fwyd gynaliadwy. “Rydym yn melino ac yn cymysgu bysedd y blaidd a barlys ac yn eu gwerthu oddi ar y fferm i ffermwyr lleol sy'n teimlo ei fod yn llawer mwy cost effeithiol na phrynu bwydydd cyfansawdd i mewn."
Mae Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio wedi cynhyrchu erthyglau technegol yn ymwneud â ffynonellau protein amgen ar gyfer bwydydd anifeiliaid. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.