1 Mai 2020

 

Mae Cheryl Reeves yn ffermwraig, yn wraig ac yn fam sydd â chydbwysedd gwaith/bywyd prysur a fyddai'n dychryn llawer ohonom! A hithau’n fiocemegydd cymwys, symudodd i swydd newydd yng Ngogledd Cymru yn 2006, ac yn fuan wedi hynny cyfarfu ag Andrew, mab fferm lleol a pheiriannydd yswiriant llawn amser.  

“Fe wnes i syrthio mewn cariad gyda’r syniad o ffermio ac roeddwn i'n benderfynol o ddysgu popeth y gallwn i ynglŷn â gofalu am anifeiliaid a rhedeg busnes."

Erbyn heddiw, mae'r cwpl, sydd bellach â phedair o ferched rhwng deg oed a 18 mis, yn ffermio 150 erw o dir ger Bangor Is-coed.

Bu’r ffocws ar ddatblygu busnes magu lloi llwyddiannus yn raddol, ac erbyn heddiw maent yn magu tua 400 o wartheg bîff British Blue croes yn bennaf. Caiff y rhain eu magu mewn siediau ‘modern’ o’r radd flaenaf a diolch i system borthi awtomatig hynod effeithlon, caiff grwpiau o hyd at 25 o wartheg eu gwerthu i gwsmeriaid sy'n ehangu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

Gyda chefnogaeth ei grŵp Agrisgôp lleol, a hwyluswyd gan Gwen Davies yr arweinydd lleol, cafodd Cheryl yr hwb a’r hyder i gyflawni breuddwyd oes. Yn gynharach eleni, sefydlodd gwmni menter gymdeithasol newydd o’r enw Agri-cation, ‘Cwmni Buddiannau Cymunedol’ sy'n addysgu unigolion, teuluoedd a phobl ag anghenion arbennig sut y gall gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) gynyddu effeithlonrwydd ffermydd.

Yn sgil effaith y cyfyngiadau presennol oherwydd pandemig y coronafeirws, mae ymweliadau â’r fenter arallgyfeirio newydd wedi’u gohirio am y tro, ond mae Cheryl yn cadw proffil uchel drwy bostio fideos cartref ar ei llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ei hun.

Pan fydd bywyd yn dechrau dod yn ôl i drefn, mae'n obeithiol y bydd yn gwbl barod ar gyfer yr ysgolion a’r grwpiau niferus sydd wedi mynegi diddordeb yn y teithiau fferm tywys rhyngweithiol y mae'n bwriadu eu cynnig.

Mae Cheryl yn rhoi’r clod i raglen Cyswllt Ffermio am ei helpu i ddatblygu’r fferm 50 erw a rentwyd gan Andrew a hithau ar y cychwyn, i fod yn fusnes cynaliadwy, modern a phroffidiol lle mae wedi gallu rhoi ei gwybodaeth wyddonol ei hun at ddefnydd da gyda’r da byw ynghyd â sefydlu Agri-cation.

"Diolch i Cyswllt Ffermio ac Agrisgôp, sydd wedi ein cynorthwyo gyda chynifer o feysydd wrth ddatblygu'r busnes, rydym bob amser wedi gwybod lle orau i ganolbwyntio ein hymdrechion, ac rydym wedi cael y wybodaeth, y sgiliau busnes a thechnegol sydd wedi ein galluogi i ddatblygu.

Yn 2015, cyflwynodd Cheryl ac Andrew eu cynllun busnes cyntaf mewn cymhorthfa adolygu busnes Cyswllt Ffermio.  

“Hwnnw oedd y sbardun i bopeth yr ydym wedi'i gyflawni bron. Yna gwnaethom gais am gyngor busnes un-i-un ‘digidol’ – oedd yn llawer haws i ni ei drefnu nag ymweliadau fferm wyneb yn wyneb  -  gan un o gynghorwyr busnes cymeradwy Cyswllt Ffermio, Wendy Jenkins o Cara Wales.

“Yn ystod y blynyddoedd ers hynny, mae Wendy wedi darparu cymorth parhaus, gan sicrhau ein bod yn defnyddio'r arian a'r amser sydd gennym yn y ffordd orau, o safbwynt technegol a rheoli busnes.”

Mae Cheryl wedi manteisio ar bron bob elfen o gyrsiau sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio, digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth a nifer o wasanaethau cymorth eraill sy'n benodol i'r sector. Erbyn heddiw, mae'r ffermwraig a'r entrepreneur ifanc prysur yma, a wnaeth gais am wasanaeth mentora un-i-un wedi’i ariannu’n llawn gan gynhyrchydd gwartheg profiadol ychydig flynyddoedd yn ôl, bellach yn fentor ar y pwnc ei hun.

“Mae Cyswllt Ffermio wedi ein helpu i wneud ein busnes yn fwy effeithlon, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy proffidiol, ac ni fyddem yn y fan lle'r ydym heddiw, heb gymorth mor anhygoel a pharhaus.”

“Trwy'r holl hyfforddiant yr wyf wedi’i gael a’r hyn yr wyf wedi’i ddysgu am bynciau'n amrywio o reoli porfa i iechyd a lles anifeiliaid, naill ai gyda chymhorthdal o hyd at 80% neu mewn llawer o achosion wedi'u hariannu'n llawn, a'r sgiliau a'r wybodaeth newydd yr wyf wedi'u hennill, rwyf bellach yn ymgymryd â mwy o feysydd gwaith nag y byddwn wedi meddwl fyddai’n bosibl, sy'n cael effaith enfawr ar ein hallbynnau.”

Dywed Cheryl fod yr elfennau niferus o hyfforddiant datblygu busnes, ariannol a marchnata y mae wedi manteisio arnynt drwy Simply The Best, un o ffermydd ymgynghoriaeth a hyfforddiant a gymeradwywyd gan Cyswllt Ffermio, wedi bod yn amhrisiadwy, gan ddysgu sgiliau y mae'n eu defnyddio bob dydd. Arweiniodd dawn a pharodrwydd Cheryl i ddysgu at ennill gwobr ‘Dysgwr y Flwyddyn’ Lantra Cymru yn 2017 ac ‘Arloeswr Fferm y Flwyddyn’ yn 2019.

Felly, beth nesaf i'r entrepreneur ifanc prysur yma sy'n benderfynol o wthio ei hun i'r eithaf.

“Mae gen i eisoes wregys du (ail Dan) mewn karate ac rwy’n gobeithio cael gwregys du mewn Taikwondo nesa, oherwydd credaf fod ffitrwydd corfforol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd meddwl a lles pob un ohonon ni.”

Mae cyfraniad Cheryl i holl weithgareddau Cyswllt Ffermio, gan gynnwys yr holl gyrsiau hyfforddi y mae wedi'u cwblhau, yn cael eu huwchlwytho'n awtomatig i'w chofnod datblygiad personol - 'Storfa Sgiliau’ - ddiogel ar-lein .

I gael gwybod sut y gallwch chi a'ch busnes elwa ar Gyswllt Ffermio a’r Storfa Sgiliau, cliciwch yma neu ffoniwch y Ganolfan Wasanaeth ar 08456 000 813. Fel arall, cysylltwch â'ch swyddog datblygu rhanbarthol Cyswllt Ffermio. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter
Ffermwr yn cael y gorau o’i gnydau gyda chymorth cwrs agronomeg wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio
29 Awst 2024 Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio