15 Hydref 2020

 

Mae ffermwr ifanc y gwnaeth ei ddatblygiad trawiadol ym maes godro ei symud o fod yn berchen ar yr un fuwch i fod â 1,300 mewn dim ond 11 mlynedd yn creu cyfle i weithiwr fferm i gynyddu ei ecwiti yn y diwydiant.  

Magwyd Matthew Jackson mewn dinas ond roedd ganddo’r uchelgais y byddai’n godro ei fuchod ei hun rhyw ddydd.

Nid yn unig mae wedi cyflawni hynny ond mae’n awr yn berchen ar 150 hectar (ha) o dir yng ngorllewin Cymru ac mae’n rhentu 270 ha arall ar fenter arall yn yr un ardal.

Daeth cyfle mawr Matthew o ran ffermio pan gynigiwyd menter ar y cyd iddo gan ffermwr llaeth yng Ngogledd Cymru.

Gyda help rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio, mae’n awr yn cynllunio i helpu unigolyn arall i gael troedle yn y diwydiant, gyda swydd a allai arwain at gytundeb rhannu elw.

Bwriad Mentro yw paru tir feddianwyr gyda newydd-ddyfodiaid gan gynnig cyllid ar gyfer cynllunio busnes a chyfarwyddyd cyfreithiol.

“Rwy’n chwilio am unigolyn brwd, y trydydd person i weithio rhwng ein dwy fferm, a fydd yn gallu datblygu ei sgiliau ac yr wyf yn awyddus iawn i roi mwy o gyfrifoldeb iddo/iddi ar ôl cyfnod o amser trwy edrych ar ddewisiadau gwahanol fel perfformiad a threfniadau rhannu elw,” esboniodd Matthew.

“Rwyf wedi dysgu o brofiad personol bod y dull hwn yn rhoi cymhelliant i rywun i weithio ar ei lefel orau, mae’n garreg gamu i bobl i ddechrau bod yn berchen ar eu buchod eu hunain.” 

Mae ei fusnes 200ha yn ardal Tregaron ac mae’n cael ei redeg ar ddwy fferm bum milltir ar wahân.

Mae’r ddwy fuches o fuchod Friesian Seland Newydd, a chyfanswm o 700 o fuchod, yn lloea yn y gwanwyn ac maent yn cael eu cadw ar system bori estynedig.

Mae’r ddwy yn gyn-unedau bîff a defaid y mae Matthew a’i bartner busnes wedi eu trosi yn fusnesau godro dros y 18 mis diwethaf.  

Cred Matthew yn bendant bod cael gweledigaeth a nod yn bwysig i unigolion sy’n ceisio mynd i mewn i’r diwydiant amaethyddol.  
Roedd wedi arbrofi gydag amrywiaeth o systemau ffermio, gan gynnwys cynhyrchu cig oen, cyn cychwyn am Seland Newydd i gneifio defaid. 

Dim ond ers pum mis yr oedd wedi dychwelyd i Gymru cyn i Seland Newydd alw eto, y tro hwn i fferm odro fawr ar Ynys y De. Roedd y profiad hwnnw wedi ei baratoi yn dda pan ddaeth cyfle am swydd ar fferm laeth yng ngogledd Cymru.

Uchelgais Matthew oedd godro ei fuchod ei hun rhyw ddydd ond gydag ychydig iawn o arian roedd yn rhaid iddo ddod o hyd i ffordd o gasglu cyfalaf. 

Wrth weithio ar y fferm fe wnaeth gynyddu ei gyfoeth trwy brynu a gwerthu lloeau heffrod ac yn y pen draw darbwyllodd fanc i fenthyca arian iddo i brynu rhagor o stoc. 

Nid oedd ganddo gyfalaf ond llwyddodd i gael benthyciad ar sail ei gynllun busnes cadarn. 

Cynyddodd Matthew ei stoc i 120 heffer, yr oedd yn eu pori ar 82 o dir ar rent, a phrydlesodd 50 o fuchod i ffermwr llaeth arall. 

Yna daeth cyfle i gyflymu ei uchelgais i redeg ei fusnes ei hun. 

Roedd fferm odro ger Pwllheli, oedd yn eiddo i’w gyflogwr, David Wynne-Finch, wedi mynd yn wag a chytunodd Matthew ar gytundeb ffermio-cyfran. Byddai ef yn cyflenwi’r stoc a Mr Wynne-Finch yn cyflenwi’r seilwaith gyda’r ddau yn rhannu’r elw yn gyfartal.

Yn ddim ond 32 oed, mae Matthew wedi gwneud cynnydd eithriadol yn gwireddu ei uchelgais, ond mae’n ddiymhongar iawn am ei lwyddiant. “Dwi ddim yn meddwl fy mod wedi gwneud dim na fyddai rhywun arall yn gallu ei wneud, fe wnes i geisio gwneud arian trwy brynu stoc yn rhad tra’r oedd gennyf swydd ac yn ennill cyflog.

“Dwi ddim yn meddwl bod arnoch angen llawer iawn o arian i gychwyn arni. Trwy gael cyflog a darn bach o dir gallwch gyflawni llawer os byddwch yn gweithio’n galed o’r dechrau. Mae’n ymwneud â chael nodau, gosod targedau a rhoi cynllun strategol yn ei le.”

Mae ganddo neges glir a gair o gyngor i eraill a all gael eu hysbrydoli i ddilyn yr un llwybr. “Peidiwch byth â dweud byth. Mae popeth yn bosibl os ydych chi am iddo ddigwydd, anelwch yn uchel bob amser.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn camu ar yr ysgol ffermio a dilyn yn ôl troed Matthew, cofrestrwch gyda’r rhaglen Mentro heddiw trwy lenwi eich Proffil Ceisiwr ar wefan Cyswllt Ffermio neu trwy gysylltu â Delyth Jones, y swyddog Mentro yn Ne Cymru ar 07985 155 670 neu delyth.jones@menterabusnes.co.uk.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o