Dechrau Ffermio
Ydych chi eisiau mentro i redeg eich busnes ffermio neu goedwigaeth eich hun yn y dyfodol? Beth am ystyried menter ar y cyd?
Mae Cyswllt Ffermio yn gallu paru ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n barod i gamu’n ôl o’r diwydiant gyda newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gychwyn ffermio yn annibynnol. Mae’n rhoi arweiniad i bobl ar y ddwy ochr trwy’r camau allweddol sydd angen eu cymryd i ganfod partner busnes posib. Mae'r pecyn cymorth yn cynnig gwasanaeth paru, mentora, cynllun busnes a chyngor cyfreithiol i ddarparu arweiniad ar bob cam o sefydlu menter ar y cyd.
Cliciwch ar y cyfloedd a restrir isod i ddarganfod mwy am y tirfeddiannwr, y fferm, a gofynion y rôl a/neu'r potensial ar gyfer menter ar y cyd.
Cliciwch yma i gael eich cynnwys ar rhestr bostio ac i gael gwybod pan fydd cyfleodd newydd ar gael.
Cyfleoedd Cyfredol:
Ydych chi'n dirfeddiannwr sy'n chwilio am bartner busnes?
Cliciwch yma i lewni Proffil Darparwr neu cysylltwch a'n Hwylusydd Olyniaeth er mwyn trafod eich opsiynau ar gyfer hysbysebu eich cyfle.
Oes oes gennych bartner busnes eisioes mewn golwg ac nad oes angen i chi ddefnyddio'r gwasanaeth paru gallwch osgoi'r cam hwn a symud ymlaen i gael mynediad at gyngor busnes a chyfreithiol ar unwaith. Mae’r cyngor wedi ei ariannu’n llawn i unrhyw un sy’n sefydlu menter ar y cyd.
I drafod eich gofynion, cysylltwch a'n Hwylusydd Olyniaeth:
Eiry Williams - 07985 155670 / eiry.williams@menterabusnes.co.uk