14 Ionawr 2021
Mae un fferm yn ucheldir Cymru yn gwario llai ar borthiant a gwrtaith ac yn pesgi ŵyn bedair wythnos yn gynharach ers gwella’r pridd a’u dulliau o reoli iechyd yr anifeiliaid.
Mae’r teulu Davies yn ffermio fferm 320 erw yn Waen Gwyn, Cefn Coch, y Trallwng, lle maent yn cadw diadell o 750 o famogiaid a 25 o wartheg sugno; maent hefyd yn rhentu 45 erw arall o dir.
Mae Chris Davies, sy’n ffermio gyda’i dad a’i daid, Glyn a Jim, a’i lysfrawd, Mark Bellerby, wedi manteisio ar lu o gynlluniau a ddarperir gan Cyswllt Ffermio.
Mae’n rhoi clod am y gwelliannau a wnaeth y busnes gyda pherfformiad y glaswelltir a’r da byw i’r cynlluniau hyn ac i’w aelodaeth o Grŵp Trafod Defaid Dyffryn Hafren a gynhelir gan Cyswllt Ffermio.
Yn sylfaen i’r rhain yr oedd Cynllun Rheoli Maetholion (NMP) a ddarparwyd drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.
Ers hynny, mae Chris wedi cael cymorth gan arbenigwyr pridd a glaswelltir arweiniol, Mark Tripney a Chris Duller, drwy ddefnyddio cynlluniau eraill gan Cyswllt Ffermio.
“Rydyn ni wedi gweld, os yw eich priddoedd yn iawn, mae popeth arall yn dilyn yn hawdd, mae i gyd yn dechrau gyda’r pridd,” meddai.
“Ers rhoi sylw i broblemau cywasgu ac adolygu ein polisi gwrteithio, rydyn ni’n tyfu glaswellt o well ansawdd a rhagor ohono ac mae hynny’n golygu bod ein mamogiaid a’n buchod yn fwy cynhyrchiol ac mae ein hŵyn a’n gwartheg yn pesgi ynghynt.”
Cynghorwyd Chris fod y busnes yn gwario arian yn ddiangen ar wrtaith sy’n cael ei ryddhau’n araf.
“Roedden ni wedi defnyddio’r gwrtaith hwnnw ers blynyddoedd, ond fe ddysgom nad dyna oedd ar ein priddoedd ei angen; mewn gwirionedd, roedd yn gwneud y sefyllfa’n waeth.”
O’r herwydd, maen nhw’n awr yn defnyddio triniaeth wrteithio ratach, safonol ar gyfer y glaswelltir.
Cynghorwyd Chris i ddefnyddio aradr isbridd ar dir oedd wedi cywasgu. Fe wnaeth patrwm pori’r ddiadell ddefaid gadarnhau mai dyma oedd y penderfyniad iawn.
“Roedd y defaid yn pori hanner y cae lle’r oeddem wedi aredig yr isbridd. Gallech weld llinell i lawr canol y cae a ddangosai lle’r oedd y defaid yn dewis pori,” meddai Chris.
Tra bod y teulu Davies wedi lleihau eu costau gwrtaith, ar ddwysfwydydd y maen nhw’n arbed fwyaf.
Mae ŵyn o’r ddiadell o 750 o famogiaid Texel x Miwl a Miwl yn bennaf yn diddyfnu yn 100 diwrnod oed, sef mis yn gynharach nag yn y gorffennol, a chaiff y rhan fwyaf eu pesgi ar laswellt yn unig.
Fe wnaeth y gwaith samplo pridd a glaswelltir, a ariannwyd 100% drwy gyngor grŵp Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, ddatgelu diffyg seleniwm, sy’n elfen hybrin bwysig yn ffrwythlondeb da byw.
Maent yn awr yn rhoi bolysau i’r gwartheg ac eleni fe wnaeth y fuches gyfan sganio’n gyflo.
Cafodd Chris gyllid drwy Cyswllt Ffermio i brofi ffrwythlondeb tarw’r fuches ar ôl blwyddyn wael o ran ffrwythlondeb.
“Rhoddodd y prawf inni’r hyder ei fod yn perfformio ar ei orau,” meddai Chris.
Bu hefyd yn gweithio â Milfeddygon Hafren, y Drenewydd, i waredu BVD o’r fuches; mae hyn wedi bod yn llwyddiant ac mae’r fuches wedi cael ei hachredu yn fuches heb BVD.
I warchod iechyd yr anifeiliaid, caiff y fuches ei rhedeg fel buches gaeedig heblaw am y teirw a brynir.
Ymysg y gwasanaethau eraill y mae Chris wedi manteisio arnynt drwy Cyswllt Ffermio y mae Clinig Cig Coch ar y fferm dan ofal Precision Grazing a nifer o gyrsiau gan gynnwys chwistrellu a dipio defaid.
Fel Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio i Ogledd Sir Drefaldwyn, mae Owain Pugh wedi helpu Chris i gael gafael ar y gwasanaethau hyn.
“Ar adeg pan fo lleihau costau cynhyrchu a gwella effeithlonrwydd buchesi a diadelloedd yn bwysicach nag erioed, dylai ffermwyr ystyried gofyn am gyngor allanol.
Weithiau, bydd rhywun sy’n edrych ‘i mewn’ o’r ‘tu allan’ yn gweld rhywbeth gwahanol a gall hyd yn oed newid bach wneud gwahaniaeth mawr i’ch busnes.
Gall swyddogion datblygu lleol Cyswllt Ffermio eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorwyr mwyaf blaenllaw y diwydiant, a chynnig cyllid i gael cyngor a allai wneud gwahaniaeth mawr i’ch busnes.”
Anogodd Chris ffermwyr eraill i ddefnyddio Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.
“Fel ffermwyr, rhaid inni fod yn barod i ystyried gwneud newidiadau yn hytrach na pharhau â’r un arferion, os nad ydyn ni’n cael y gorau oddi wrth y tir a’n stoc, ac os na wnawn ni hynny, ni fydd ein busnesau yn datblygu.”